Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Meic Stevens

Canwr | Iaith: Cymraeg

Gwefan: web.archive.org/web/20031217151334/http://www...

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Yn frodor o Solfach yn Sir Benfro bu Meic yn rhan annatod o gerddoriaeth boblogaidd Cymru ers dechrau'r 60au. Er iddo gychwyn canu yn Saesneg, fe sylweddolwyd yn gynnar iawn o’i weld ar raglen bop ar y teledu ei fod yn berfformiwr unigryw yn Gymraeg.

Mae Meic yn ganwr/cyfansoddwr talentog iawn ac mae'n perfformio yr un mor wych ar ei ben ei hun ag y gwna gyda'i fand. Bu'n aelod o grwp Y Bara Menyn gyda Geraint Jarman a Heather Jones a bu hefyd yn aelod canolog o'r band Y Cadillacs.

Pan gychwynnodd Recordiau Sain yn 1969, Meic fu'n gyfrifol am gynhyrchu record estynedig gynta'r cwmni, Dŵr, gan un o sefydlwyr y cwmni, Huw Jones. Aeth Meic hefyd i Lundain i gynhyrchu ail record i Huw a oedd yn cynnwys Paid Digalonni, a gyfansoddwyd ar gyfer Dafydd Iwan, a oedd yng Ngharchar Caerdydd.

Yn fuan wedyn recordiodd Meic ei record estynedig gyntaf i Sain, er iddo cyn hynny recordio yn Saesneg ar labelu eraill. Rhyddhawyd ei sengl gyntaf yn 1972, record yn cynnwys y gân hynod boblogaidd Y Brawd Houdini, cân a ddaeth yn un o ffefrynnau'r Super Furry Animals. Dilynwyd hon ychydig fisoedd yn ddiweddarach gan ail record Meic, a oedd yn cynnwys cân a ddaeth yn ffefryn gan bawb, Diolch yn Fawr.

Dros y blynyddoedd recordiodd nifer o recordiau hir, yn arbennig ar Sain a'i chwaer-label Crai. Am gyfnod bu'n byw yn Llydaw lle daeth o dan ddylanwad ffordd o fyw, cerddoriaeth, bwyd a gwin y wlad honno. Ond dychwelodd i Gymru ac mae'n byw ers tro bellach gyda'i blant yng Nghaerdydd.

Yn 2002, i gyd-fynd â phen-blwydd Meic yn 60ain fe wnaeth Sain ryddhau Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod, pecyn o dair CD yn cynnwys casgliad o'i ganeuon a recordiwyd rhwng 1968 a 1979.

Diweddarwyd ddiwethaf: 06 Mehefin 2005