Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Pigyn Clust

Grŵp | Arddull: Gwerin | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1994 - 2002

Gwybodaeth

Pigyn ClustCododd Pigyn Clust o'r hyder newydd yng ngherddoriaeth draddodiadol Gymreig dyfodd o'r sesiynau a'r gwyliau yn nechrau'r nawdegau. O'r dechrau, naws syml acwstig oedd yn apelio, a'r trefniadau yn troi o amgylch y delyn, ffidil, pib isel, bwswci, ac wrth gwrs llais trawiadol Ffion Hâf.

Bellach, mae dwy ffidil yn gwau yn gyffrous drwy'r rhan helaeth o'u cynnyrch, a'r bwswci, gitar, mandola yn cynnal y cyfan. Ceir ambell ymweliad gan y crwth hefyd.

Daw'r alawon, a'r caneuon o'r traddodiad llafar byw, yr eisteddfod, drwy chwilota llawysgrifau, a chyfansoddiadau gwreiddiol.

Cafodd eu CD cyntaf "Otitis Media" (Recordiau Sain) groeso cynnes gan y 'wasg werin'. Ar eu casgliad newydd "Perllan" (Fflach Tradd), clywir clasuron megis 'Lliw'r Heulwen', ac alawon dawns o'r traddodiad Cymreig, ochr yn ochr a chyfansoddiadau gwreiddiol.

Amserlin:


  • 1994 - Cychwyn y band a'r aelodaeth canlynol: Ffion Hâf (Llais), Iola Llywelyn Gruffydd (Telyn fach), Endaf ap Ieuan (Gitar), Idris Morris Jones (Ffidil, Pib Isel)

  • 1996 - Wyn Williams - Gitar yn ymuno

  • 1998 - Recordio Otitis Media yn Stiwdio Sain Llandwrog

  • 1999 - Iola'n Gadael, a Cass Meurig yn ymuno a'i ffidil (a thelyn yn wreiddiol).

  • 2000 - Recordio 'Perllan' yn Dreamworld Studios, Mathry ym mis Tachwedd

  • 2001 - Cyhoeddi 'Perllan' ym mis Mawrth.

Aelodau

Ffion Hâf - llais
Cass Meurig - crwth, ffidil
Wyn Williams - gitar, mandola
Idris Morris Jones - ffidil, llais
Endaf ap Ieuan - bwswci, gitar

Disgyddiaeth

Otitis Media - (Albwm CD, Recordiau Sain SCD2191,1988)
Perllan - (Albwm CD, Fflach Tradd CD244H, 2001)

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Ionawr 2007