Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Pumed Person

Grŵp | Iaith: Cymraeg, Saesneg | Cyfnod: 2006 -

Gwefan MySpace: www.myspace.com/pumedperson

Gwybodaeth

Fe gyfarfu Meilyr, Javier a Rhian yng nghlwb y Twcan, Caerdydd, ar nos Sul yn haf 2006. Roedd 'Walking Wounded' sef band Meilyr a Javier ar y pryd, ar frys i gyrraedd eu gwlau yn gynnar, a felly gofynwyd felly i'r ferch oedd yn agor y noson, sef Rhian Payne, am swap. Iawn medda hi "ond fedrwch chi plis diwnio fy gitâr i gynta".

Wedi eu swyno gan lais cryf ac unigryw Rhian, gwelodd Meilyr a Javier botensial i weithio ar brosiect Cymraeg, gan mai yn saesneg oedd y canu ar y pryd. Roedd angen un aelod arall hefyd i yrru'r injan greadigol, sef Robert Clark, gitarydd a ddaeth yn ôl i'n harswydo o bellteroedd Maenceinion.

Pedwar aelod sydd yn perthyn i'r pumed person, roedd Rob, sef y pedwerydd yn yr hafaliad anghydamserol yn arfer ysgrifennu caneuon ar y cyd gyda Meilyr ar gyfer band a elwid yn 'Solid Air'. Roedd y ddau yn awyddus i achub rhai perlau gwerthfawr a gladdwyd yng ngwaelod y môr.

Ers cychwyn gweithio gydau gilydd mae'r 'Pumed Person' wedi perfformio i dyrfa frwd fwy nac unwaith yn y Twcan, eu cartref cerddorol am byth. Maent hefyd wedi torri syched creadigol yn 'The Gate', Caerdydd, The Trof, Manceinion, Y Bwl, Llangefni, yn ogystal a llawer i dafarn arall croesawgar ledled Cymru. Yn ddiweddar maent wedi bod yn brysur yn recordio rhai o'u caneuon gyda'r gobaith o lansio eu CD cyntaf yr haf yma.

Aelodau

Meilyr Wyn - gitâr
Javier Matteo Franco
Rhian Payne - llais
Robert Clark - gitâr

Diweddarwyd ddiwethaf: 02 Mawrth 2007