Rhestr Artistiaid - Manylion
Slippy
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1994 -
Gwybodaeth
Ffurfiwyd yn haf/hydref 94 o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Aberystwyth. Wedi chwarae sawl gig yn ardal Aberystwyth. Wedi recordio sesiwn i Radio Cymru (Hwyrach:Yn y cnawd (Morgan Hopkins)). Maent wedi cefnogi: Beganifs, Catatonia, Dom, Gorky's Zygotic Mynci, Samba Gales (i gyd yn y Dawns Ryng-Gol) a Super Furry Animals.
Mae Aled 'Rave' Jones wedi gadael y grŵp yn ddiweddar er mwyn ail-ffurfio'r Pwrsod Salw. Efallai mai Malcolm Mathews fydd y gitarydd newydd.
Rhywle rhwng Gorky's a Pync Americanaidd fel Green Day ac Offspring. Iaith Gymraeg yn bennaf.
Aelodau
Daniel Cousins - llais (+tambourine achlysurol!) [Aber Karaoke Champ 94]
David Hall - allweddellau [Yr unig un sy ddim yn deall iaith y nefoedd]
Dafydd Jones - drymiau [Ex-'GYTO'. 1 gig!]
Seimon Williams - llais [Oedd yn aelod o grŵp pryd oedd yn yr ysgol ond torrodd ei lais yn ystod y gig cyntaf/olaf!]
Tristan Williams - gitâr fas [No previous convictions]
Cyfrannwr: Tristan Williams
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Ebrill 2005