Rhestr Artistiaid - Manylion
Starsci
Grŵp | Arddull: Roc, Pop | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2006 -
Gwefan MySpace: www.myspace.com/starsci
Chwilio am gigs gyda'r artist yma
Gwybodaeth
Ganwyd Starsci pan unodd Phil, Darren, Gavin ag Owain o'r band P'tcheaow! i 'sgrifennu cerddoriaeth wreiddiol, gyda'r uchelgais o berfformio ar y sîn roc Gymraeg. Fe ddatblygodd y band medrus, hyderus yma sain a theimlad unigryw a wnaeth aeddfedu ymhellach pan herwgipiwyd cyn-aelod o'r grwp pop 'MaxN', Gareth Jewell fel prif leisydd.
Y canlyniad: Sain roc gwir bwerus, aruthrol ac egnïol gyda melodiau cryf, cofiadwy! Dan reolaeth alcohol, kebabs a llwch hud wnaeth ddisgyn o'r gofod, wnaeth swn roc pwerus llifo allan o'u cyrff a ffrwydro dros y stiwdio yn Aberteifi. Pan wnaeth y mwg glirio, a cyn i'r chwedl Wyn Jones a'i sbectol hud godi off y llawr, mi oedd hanes wedi' greu, yn ffurf yr Albwm 'Bob's Your Aunty'!
Dros y flwyddyn diwethaf, mae 'Starsci' wedi dechrau casglu diddordeb a chreu argraff arbennig o dda gyda pherfformiadau bywiog a hyderus yn nifer o wyliau dros Gymru – gan gynnwys 'Parti Ponty' Pontypridd, 'Gwyl Fai' Caerfyrddin, Eisteddfod Abertawe 2006, ac yn mwynhau llwyddiant ym Mrwydr Y Bandiau Mentrau Iaith yn Eisteddfod Yr Wyddgrug, eleni.
Yn ogystal a chwarae gigiau mae 'Starsci' wedi ymddangos yn y cyfryngau, drwy berfformio fersiwn acwstig o'r gân 'Nabod Ti' ar raglen prynhawn S4C 'Wedi 3'. Ym mis Medi wnaeth C2 ganolbwyntio ar 'Starsci' ar eu eitem 'Gwyliwch y Gofod', a chwarae cerddoriaeth o'u safle myspace.
Dros y flwyddyn nesa, mae Starsci yn gobeithio dominyddu'r sîn roc Gymraeg, gan lusgo i'w draed a'i ddyrnu mewn i siâp. Y gobaith yw perfformio yn y Sesiwn Fawr, ymddangos ar y rhaglen Bandit, a gigio'n wythnosol i cael talu am fan newydd cyn i'r un presennol ladd pawb sydd yn agos iddo.
Aelodau
Gareth Jewell - llais
Phil Jewell - gitar / llais
Gavin Lewis - gitar
Darren Sedgwick - bas
Owain Wyn Evans - drymiau
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Rhagfyr 2007