Rhestr Artistiaid - Manylion
Steve Eaves
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1983 -
Chwilio am gigs gyda'r artist yma
Gwybodaeth
Mae Steve Eaves A Rhai Pobl, neu Steve Eaves A'i Driawd fel y gelwir ers talwm wedi rhyddhau albwm yn ddiweddar, o'r enw "Y Canol Llonydd Distaw". Daw Steve yn wreiddiol o Stoke On Trent, ond rwan mae'n byw ger Bethesda, yng Ngwynedd. Mae'r band wedi bod o dan label Stiwdio'r Felin, Felinheli a Sain yn y blynyddoedd cynnar, ond rwan maent ar label Ankst.
Aelodau
Steve Eaves - llais, gitâr
Iwan Llwyd - gitâr fas
Pwyll ap Sion - organ, piano, allweddellau
Jackie Williams - llais
Richard Wyn Jones - drymiau, offerynnau taro
Elwyn Williams - gitâr
Dafydd Dafis - llais, sacsoffon
Aelodau achlysurol:
Paula Gardiner - bas dwbl
Owain Arwel - trombôn
Bari Gwilliam - trwmped
Edwin Humphreys - sacsoffôn
Les Morrison - gitâr acwstig, gitâr rythm, banjo, llais
Disgyddiaeth
Viva la revolucion galesa! (EP, Stiwdio'r Felin, Felinheli, 1984)
Cyfalaf a chyfaddawd (LP, Sain, 1985)
Sbectol Dywyll (LP, Stiwdio Les, Bethesda, 1989)
Plant Pobl Eraill - ANKST 14 (LP, Ankst, 1990)
Tir Neb (EP, er budd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1990)
Croendenau - ANKST 28 (LP, Ankst, 1992)
Y Canol Llonydd Distaw - ANKST 67 (LP, Ankst, 1996)
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Ebrill 2005