Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Trawsfynydd Lo-fi Liberation Front

Grŵp | Arddull: Electronica | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2000 -

Gwefan MySpace: www.myspace.com/trawsfynyddlofiliberationfron...

Gwybodaeth

Daeth y Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front i amlygrwydd ar ddechrau’r mileniwm drwy donfeddi yr orsaf radio Gymraeg gyntaf ar y we, Radio D. Rhyddhawyd eu albwm cyntaf, Croeso i’r Canolfan Ymwelwyr ar label Fitamin Un yn 2000 gan ddrysu gwrandawyr gyda synau diwydiannol, ethos anghydffurfiol arbrofol a meddylfryd electroneg DIY. Ymddangosodd y TLLF ar gasgliadau labeli Burning Emptiness Inc yn Ffrainc a Ochre yn Lloegr.

Yn 2001, wedi perfformio yn y Centre de Cultura Contemporania de Barçelona, dychwelasant i Gymru i sefydlu’r Labordy Swn Cont... sef casgliad o gerflunwyr sain blaengar ac arbrofol. Fel rhan o’r Labordy cafwyd perfformiadau yng Nghanolfan Chapter, Caerdydd a rhyddhawyd record 12”. Ni chlywyd llawer ganddynt wedi hynny...nes nawr.

Trac electroneg a recordiwyd ar y cyd rhwng y Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front a Stabmaster Vinyl ydi “(Mab Annwyl) Dy Fam”. Serch hynny dydi’r ddau artist tanddaearol yma erioed wedi cwrdd. Recordiwyd y gân yma wrth i’r ddau anfon synau yn ôl ac ymlaen at ei gilydd dros y we. Chwaraewyd y trac eisoes ar One Music ar Radio Un, sioe Huw Stephens ar C2 Radio Cymru ac ar yr orsaf ryngrwyd, Radio Amgen.

Mae “(Mab Annwyl) Dy Fam” yn ymddangos ar y casgliad amlgyfrannog SWN ESMWYTH, LLYFN, MOETHUS RECORDIAU SAFON UCHEL sydd allan nawr ar label Recordiau Safon Uchel.

Disgyddiaeth

"Yr Anthem Genedlaethol"& "Trydan" - (ar CD Radio D) - (MP3, R-Ben 050, 2000)
Croeso i'r Canolfan Ymwelwyr - (CD, Fitamin Un Fit! 007, 2000)
Llofrudd Digidol - (CD Cerdyn Credid, Fitamin Un Fit! 013, 2001)
"Voice of the NRP" & "Non Direct Violent Action" - (ar CD Noise Research Programme, Burning Emptyness Inc (BEInc 100), 2001)
"Ynni" (ar Continuous Sound Labordy Swn Cont...) - (12" EP, Fitamin Un Fit! 010, 2001)
"Trawscentral" (ar Infrasonic Waves) - (CD, Ochre OCH025LCD, 2001)
"(Mab Annwyl) Dy Fam" gyda Stabmaster Vinyl (ar CD Swn Esmwyth, Llyfn, Moethus, High Quality Recordings (HQ 30), 2006)

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Tachwedd 2006