Rhestr Artistiaid - Manylion
Valstumps
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1992 - 1995
Gwybodaeth
Trobwynt oedd Haf 1992 yn nyfodol cerddorol 6 bachgen o Fangor. Er nad oedd chwarae gyda'i gilydd mewn grŵp yn brofiad newydd iddynt, roedd defnyddio'r enw anarferol Valstumps yn rhoi gwêdd newydd i'r grŵp. Roedd cefndiroedd cerddorol amrywiol aelodau'r band yn eu helpu i sefydlu cerdoriaeth unigryw. Chwarae mewn tafarndai a chlybiau nos bach Bangor efo grwpiau anarferol Saesneg oedd eu hymddangosiadau cyhoeddus cyntaf; roedd canu yn yr iaith Gymraeg yn ychwanegu at wreiddioldeb Valstumps yn sîn roc Saesneg y ddinas.
Darganfod ffordd mewn i'r Sîn Roc Gymraeg oedd uchelgais y grŵp a buan iawn y gwnaethpwyd hyn drwy ennill prif gystadleuaeth grwpiau newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993. Cynorthwyodd hyn ddatblygiad y grŵp - wedi hynny dechreuodd y band ymddangos mwy ar lwyfannau Cymru efo'r "grwpiau mawr", a recordiwyd un o'u caneuon ar dâp aml gyfrannog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Oi Gwrandewch Arna I. Cyfrannwyd yn ariannol i Valstumps er mwyn iddynt recordio tâp eu hunain yn stiwdio Les Morrison. Galwyd y tâp pedair cân yn Cadwyn ac fe'i rhyddhawyd yn Eisteddfod Nedd 1994.
Fe wnaeth y band chwalu yn 1995 wedi i'r aelodau wasgaru i wahanol golegau a fe aeth rhai o'r aelodau ymlaen i fandiau eraill - fe ddaeth Huw yn aelod o'r Chouchen.
Aelodau
Huw Roberts
Rhodri Llywelyn
Gareth Roberts
Llywelyn Roberts
Gareth Williams
Cyfrannwr: Huw Roberts
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Hydref 2005