Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Y Cyffro

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1978 -

Gwefan: www.ycyffro.com

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Roedd y grwp gwreiddiol, "Cyffro", yn chwarae o amgylch Cymru yn niwedd y saithdegau a dechrau'r wythdegau, a perfformwyd y grwp ar y radio a teledu . Mi recordiwyd un can ar sengl gyda'r "Trwynau Coch", a cafodd honno ei chwarae gan Radio Cymru ac ar Radio 1 ar rhaglen John Peel.

Mae pedwar o'r grwp gwreiddiol, Derek, Malcolm, Meirion a Huw, ynghyd a Dave Roberts a Selina Allport wedi dod at eu gilydd i ailffurfio fel "Y Cyffro".

Rhyddhawyd C.D. gynta "Y Cyffro" yn mis Mehefin 2001 o'r enw "Dechrau o'r Diwedd" ar label Recordiau Awen. Mae caneuon o'r C.D. yn cael nifer o chwaraeon ar Radio Cymru ag Champion FM yn enwedig y ddau can "Yr Ifanc i'w y Rhai Gwyllt", a "Cysgod y Mynyddoedd".

Yn Tachwedd 2001 dechreuodd y grwp perfformio'n byw hefo'r gig gynta yn tafarn Ty Newydd - Sarn Meillteyrn. Ers hyna mae'r grwp wedi perfformio yn nifer o llefydd yn cynnwys Miri Madog, Cofi Roc yn Caernarfon, ag Gwyl Cefni.

Yn dechrau 2002 gafodd y grwp gwahoddiad i recordio E.P. yn stiwdio Sain. Gafodd yr E.P. - "Byw am y Weekend" - rhyddhau yn Gorffenaf 2002 hefo pump can - "America", "Carol Ann", "Byw am y Weekend", "Disgwyl am y Dydd", ag "Yn y Ddinas". Mae'r caneuon yma yn hefyd cael nifer o chwaraeon ar gorsafion radio y wlad ag yn poblogaidd gyda'r grandawyr.

Aelodau

Malcolm Lloyd - llais
Huw Jones - gitâr bas
Derek Hughes - gitâ
Meirion Jones - drymiau
Dave Roberts - gitâr
Selina Allport - llais

Disgyddiaeth

Dechrau O'r Diwedd - (Recordiau Awen, AWENCD 205, 2001)
Byw Am Y Weekend - (Recordiau Sain, SAIN SCD 2350, 2002)

Diweddarwyd ddiwethaf: 07 Ionawr 2005