Rhestr Artistiaid - Manylion
Yr Anhygoel
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1999 -
Gwybodaeth
Yr Anhygoel oedd enillwyr cystadleuaeth bandiau ifanc Uned 5 ac Eisteddfod Yr Urdd yn 1999, chwe mis yn unig ar ôl ffurfio. Er hyn bu'r hogiau o Ffestiniog a'r cylch yn brysur yn gigio ac yn awyddus i wneud mwy o amgylch Cymru dros gyfnod yr haf ac i'r Mileniwm newydd. Y wobr drwy ennill cystadleuaeth bandiau ifanc Uned 5 i'w recordio sesiwn Ram Jam ar Radio Cymru yn ogystal a chynhyrchu fideo o'r gan fuddugol ar raglen 'Garej' ar S4C, ond mae Ywain, Deian, Eilir a Gareth yn awyddus i'r Cymry i gyd cael y cyfle i glywed eu cerddoriaeth drwy chwarae nifer o gigiau o amgylch y wlad. Ar y funud maent wedi eu cyfyngu i Ogledd Orllewin Cymru ond maent eisiau newid hyn. Mae menter o'r coleg lleol wedi'u helpu i wneud hyn yn barod. Caiff hon ei rhedeg gan Dafydd Rhys (brawd Gruff Rhys - canwr SFA) a rhai o'i grŵp o'r coleg.
Mae chwarae mewn gwyliau arbennig hefyd wedi rhoi cymorth i'r band megis Gwyl Car Gwyllt - Blaenau Ffestiniog, Yr Eisteddfod a.y.y.b. Y prif reswm am wneud hyn yw ei bod angen hybu eu cerddoriaeth dros Gymru cyn feddwl am recordio rhywbeth yn broffesiynol. Eisioes cafodd y band yr anrhydedd (sydd wir yn anhygoel) o chwarae gyda'r bandiau gwych Anweledig a'r Tystion, wedi i fand Gwyddelig fethu a dod drosodd i Gymru i wneud y gigiau.
Aelodau
Ywain Gwynedd - Prif lais / gitâr rythm
Deian Jones - Llais ôl / gitâr fas
Eilir Morgan - Gitâr flaen
Gareth Roberts - Drymiau
Artistiaid Cysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Ebrill 2005