Newyddion - Manylion
Dan y cownter - CD amlgyfrannog i godi ymwybyddiaeth
Dydd Gwener, 27 Mai 2005 - 10:23pm | Diwydiant |
Mae'r Welsh Music Foundation a Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhyddhau CD am ddim i dargedu diffyg ymwybyddiaeth o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Dyma ddeg artist o wyth label gwahanol i gyd yn canu yn yr iaith Gymraeg: casgliad i gyffroi 10,000 o bobl ifanc ledled Cymru. Mae'r caneuon ar Dan y Cownter wedi eu dewis gan DJ Huw Stephens o Radio 1 mewn ymateb i'r galw gan bobl ifanc gael eu cyflwyno i'r sîn Gymraeg bywiog.
Dros y misoedd nesaf, fe fydd y CD yn cael ei ddosbarthu mewn ysgolion, prosiectau ieuenctid, gwyliau cerddorol, cystadlaethau Brwydr y Bandiau a drefnir gan BBC Radio Cymru - C2 a'r Mentrau Iaith, Eisteddfod yr Urdd a nifer o lefydd eraill.
Fe fydd llyfryn 16 tudalen wedi ei gynnwys gyda'r CD a fydd yn nodi manylion busnesau a sefydliadau sydd yn gweithio o fewn y sîn cerddoriaeth Gymraeg gan gynnwys labeli recordio, gwyliau cerddorol, gigs rheolaidd, safleoedd gwe a ffansins.
Yn ôl Huw Stephens, "Mae unrhyw CD sydd am ddim i bobl nad ydynt fel arfer yn gyfarwydd â cherddoriaeth fel hyn yn beth da. Fe ddewisais y traciau am eu cryfderau a'r artistiaid. Mae llawer yn digwydd gyda cherddoriaeth gyfoes Gymraeg yn barhaol".
Mi fydd y CD yn cael ei lansio yn Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd ar lwyfan Radio Cymru/S4C tu allan i Ganolfan y Mileniwm - 10.30am, Dydd Iau. 2 Mehefin
Dyma restr o'r traciau ar y CD:
1. Brigyn - Sonar (Gwynfryn Cymunedol)
2. Cofi Bach & Tew Shady - Triwch Hi Ar Menai (Recordiau Menai)
3. Ashokan - Dim Coes, Dim Brec (Dockrad)
4. Alun Tan Lan - Cân Beic Dau (Rasal)
5. Poppies - Sex Sells (Ciwdod)
6. Texas Radio Band - Chwaraeon (Recordiau Slacyr)
7. Frizbee - Ti (Si Hei Lw) (Recordiau Cosh)
8. Pep Le Pew - Cwffio, Caru a Magu (Recordiau Slacyr)
9. Winabego - Unarddeg Dyn i Lawr (Rasal)
10. Jakokoyak - Murmur (Peski)
Dylai unrhywun a hoffai dderbyn copi danfon ebost gyda'i enw a cyfeiriad.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:19pm