Newyddion - Manylion
Clwb Senglau Rasal i hyrwyddo cynnyrch newydd
Dydd Mawrth, 31 Mai 2005 - 3:32pm | Labeli |
Mae label newydd Rasal wedi cyhoeddi rhestr o'r cynnyrch sydd i'w ryddhau ar y label yn y misoedd i ddod. Mi fydd y Clwb Senglau newydd yn lansio er mwyn hyrwyddo'r cynnyrch newydd.
O Fehefin y 5ed ymlaen fe fydd hi'n bosib llwytho lawr copi o'r senglau o wefan Rasal gan gannwys traciau gan Winebago, Llwybr Llaethog, Daniel Lloyd ac Alun Tan Lan. Mae'r senglau wedi ei cymeryd oddi ar albymau fydd yn cael eu ryddhau o Fehefin ymlaen.
Mae'r arlwy yn cynnwys albymau gan artistiaid newydd fel Java a Sibrydion, ail albwm gan Alun Tan Lan yn ogystal a record newydd gan yr hen ffefrynnau Llwybr Llaethog. Mae Rasal hefyd wedi rhoi lle i fandiau mawr y gorffennol, gyda record o oreuon y band Topper a set 4-CD o ganeuon anhygoel Y Cyrff.
I gofrestru gyda Clwb Senglau Rasal, ewch i wefan Rasal, ac yn y cyfamser, dyma amserlen ryddhau y label yn y misoedd i ddod.
Mehefin 27ain - RAS CD006 - JAVA - Mewn I Jwngl Java (EP)
Gorffennaf 11eg - RAS CD007 - Llwybr Llaethog - Mega Tidy (LP)
Gorffennaf 18fed - RAS CD008 - Daniel Lloyd a Mr Pinc - Goleuadau Llundain (LP)
Gorffennaf 25ain - RAS CD009 - Sibrydion - JigCal (LP)
Awst 1af - RAS CD010 - Alun Tan Lan - Distawrwydd (LP)
Awst 1af - RAS CD011 - Topper - Goreuon (LP)
Awst 1af - RAS CD012 - Y Cyrff - Box Set (4LP)
Medi 5ed - RAS CD013 - Drymbago (LP)
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 8:17pm