Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Taith i lansio albwm newydd y Mattoidz

Dydd Mawrth, 10 Mai 2005 - 1:40pm | Gigs |

Mattoidz - Edrych Yn Well O BellFe fydd y Mattoidz yn rhyddhau eu halbwm cyntaf hir-ddisgwyliedig ddiwedd mis Mai ar label Rasp. Edrych yn well o bell yw teitl yr albwm a fydd yn cynnwys fersiwn newydd o un o senglau gorau 2004, Y Dyn Telesales, yn ogystal a ffefrynnau byw fel Sos Coch, Dwi ishe prynu ty yn Tydrath ac Angel. Cynhyrchwyd yr albwm gan gitarydd y grŵp Rhys James yn stiwdio Fflach, Aberteifi.

Fel rhan o hyrwyddo Edrych yn well o bell, fe fydd y Mattoidz yn perfformio cyfres o gigiau o amgylch y wlad dros yr wythnosau nesaf. Ar ôl perfformio 65 o gigs llynedd, mae Mattoidz bellach yn un o fandiau byw mwyaf cyffrous y sîn. Byddwch yn siwr o'u gweld ar ei taith!

Chwiliwch am gigs y Mattoidz

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:18pm