Newyddion - Manylion
Hel straeon ar albwm newydd Mim Twm Llai
Dydd Iau, 30 Mehefin 2005 - 4:48pm | Artistiaid |
Mae Mim Twm Llai ar fin ryddhau eu hail albwm Straeon y Cymdogion ar label Crai. Mi fydd y CD yn cael ei lansio ar nos Wener, Gorffennaf 15 yn y Sesiwn Fawr. Fe recordiwyd yr albwm yn stiwdio Sain, Llandwrog a Stiwdio Bos, Llanerfyl.
Prosiect solo Gai Toms yw Mim Twm Llai. Yn ogystal â chyfansoddi a chwarae gitâr i Anweledig, mae Gai wedi datblygu'r grŵp Mim Twm Llai fel modd iddo gyfansoddi a perfformio caneuon sydd ag arddull wahanol i'r hyn mae'n gyfansoddi gyda'r grŵp Anweledig. Yn ôl Gai; "Yn bennaf baledi gyda chymysgedd o ganu gwerin, reggae a roc yw caneuon Mim Twm Llai".
Mae'r enw "Mim Twm Llai" yn mynd yn ôl cyn i Gai hyd yn oed ddechrau chwarae'r gitâr. Pan roedd Gai a'i chwaer Elaine yn tyfu fyny yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog roedd y dyn drws nesa yn galw Elaine yn "Mim Twm Bach" ar ôl eu Tad - Meurig Thomas (Mim Twm). Yn naturiol felly, Gai oedd Mim Twm Llai!
Fe fydd y band yn mynd ar daith neuaddau pentref mis Medi yma ac yn chwarae nifer o gigs cyn hynny - chwiliwch am gigs Mim Twm Llai.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:30pm