Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Hel straeon ar albwm newydd Mim Twm Llai

Dydd Iau, 30 Mehefin 2005 - 4:48pm | Artistiaid |

Mim Twm Llai - Straeon y CymdogionMae Mim Twm Llai ar fin ryddhau eu hail albwm Straeon y Cymdogion ar label Crai. Mi fydd y CD yn cael ei lansio ar nos Wener, Gorffennaf 15 yn y Sesiwn Fawr. Fe recordiwyd yr albwm yn stiwdio Sain, Llandwrog a Stiwdio Bos, Llanerfyl.

Prosiect solo Gai Toms yw Mim Twm Llai. Yn ogystal â chyfansoddi a chwarae gitâr i Anweledig, mae Gai wedi datblygu'r grŵp Mim Twm Llai fel modd iddo gyfansoddi a perfformio caneuon sydd ag arddull wahanol i'r hyn mae'n gyfansoddi gyda'r grŵp Anweledig. Yn ôl Gai; "Yn bennaf baledi gyda chymysgedd o ganu gwerin, reggae a roc yw caneuon Mim Twm Llai".

Mae'r enw "Mim Twm Llai" yn mynd yn ôl cyn i Gai hyd yn oed ddechrau chwarae'r gitâr. Pan roedd Gai a'i chwaer Elaine yn tyfu fyny yn Nhanygrisiau, Blaenau Ffestiniog roedd y dyn drws nesa yn galw Elaine yn "Mim Twm Bach" ar ôl eu Tad - Meurig Thomas (Mim Twm). Yn naturiol felly, Gai oedd Mim Twm Llai!

Fe fydd y band yn mynd ar daith neuaddau pentref mis Medi yma ac yn chwarae nifer o gigs cyn hynny - chwiliwch am gigs Mim Twm Llai.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:30pm