Newyddion - Manylion
Yscolan - CD newydd gan Ceri Rhys Matthews
Dydd Llun, 06 Mehefin 2005 - 5:42pm | Artistiaid |
Mae Ceri Rhys Matthews, yr offerynnwr o Bencader, newydd ryddhau crynoddisg o'r enw Yscolan sy'n cynnwys cerddoriaeth ddigyfeiliant i'r ffliwt bren ac elfennau llafar. mae'r casgliad yn cynnwys alawon dawns ac alawon eraill o dde a gorllewin Cymru ochr yn ochr a darnau o farddoniaeth gynnar, a deunydd newydd yn y Saesneg a'r Gymraeg a ddarllenir gan Beverley Evans, hefyd o Bencader.
Yn ddi flewyn ar dafod o gyfoes, mae'r gwaith yn ystyried beth yw natur celfyddyd a rhan yr artist yn y weithred. mae'n herio'r safbwynt fodern o osod yr artist fel ego canolog sy'n gweithio y tu faes i ddylanwadau hanesyddol a chymdeithasol ac ar yr un amser yn pwysleisio rhyddid a chyfrifoldeb yr artist i ddihengyd o gyffion traddodiad.
Mae'r darn adleisiol yma'n dathlu ystod bywydau y bobol gyffredin, boed yn fyw neu'n farw, fel y'i mynegwyd trwy eu celfyddyd anhysbys, gan etifeddion eu rhodd.
Mae'n bosib clywed clipiau sain o'r CD a chael manylion ar sut i'w brynu ar wefan Yscolan
Cyfrannwr: Ceri Rhys Matthews
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:12pm