Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Bobs yn rhyddhau EP newydd

Dydd Gwener, 10 Mehefin 2005 - 7:33pm | Artistiaid |

Mae Huw 'Bobs' Pritchard wedi rhyddhau EP newydd - "Wyth Awr Mewn Degawd" - y CD cyntaf ganddo ers degawd.

Yn niwedd yr 80au a dechrau y 90au roedd Bobs yn cyfansoddi caneuon difyr a deifiol o dan yr enw 'Byd Afiach'. Fe roedd hefyd yn gyflwynydd radio a theledu gyda sioe gerddoriaeth wythnosol ar Radio Cymru a sioe fideo ar S4C yn y 90au cynnar.

Yn 1995 fe ryddhawyd casgliad o'i ganeuon ar y CD Yn ei fyd bach ei hun yn cynnwys goreuon Bobs o 1986 i 1995. Fe roedd y caneuon yn amrywio o ganeuon acwstig syml i ganeuon pop ac arbrofol. Y llinyn cyson yn y gwaith oedd golwg ddychanol ar y byd a'i broblemau, yn wawdlwyd weithiau ond bob amser yn ddifyr.

Mae'r EP yn cynnwys 6 o ganeuon acwstig fydd efallai yn ateb y cwestiwn "Be ddigwyddodd i'r Bobs?". Dyma restr o'r caneuon fydd ar y CD:

Defeat It
3yn1
Artaith
11 Nos Wener
Protest Singer
'Sdim Byd Rhyngom Ni

Mae'r CD ar gael o'ch siop Gymraeg leol neu, yn fuan, o wefan Sebon.

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:21pm