Newyddion - Manylion
Taith gigs gyda Kentucky AFC, Sibrydion a'r Caves
Dydd Sul, 05 Mehefin 2005 - 10:17pm | Gigs |
Ym mis Mehefin mae Maes B, Drygioni a Rhys Mwyn yn dod ynghyd i drefnu taith gyda rhai o fandiau amlycaf Cymru. Dros 4 penwythnos ac yn ymweld ag 8 gwahanol leoliad bydd cyfle i chi weld Kentucky AFC, Sibrydion a The Caves, ynghyd a nifer o fandiau newydd ifanc yn perfformio.
Bydd cyfle i glywed caneuon oddi ar EP newydd Kentucky AFC - Iasobe? - a fydd yn cael ei rhyddau gan Label Boobytrap ar ddechrau mis Gorffennaf. Dyma hefyd y cyfle cyntaf i glywed Sibrydion yn chwarae yn fyw eleni, gan ei bod wedi bod yn brysur wrthi'n recordio ei albwm cyntaf - Jigcal - a fydd yn cael ei rhyddhau gan Rasal ar ddechrau mis Awst.
Efo'r ddau ohonynt ar y daith mae band ifanc o Abertawe o'r enw The Caves sydd wedi bod yn cael tipyn o sylw yn y wasg Prydeinig wrth iddynt fod wrthi'n hyrwyddo ei album newydd 'This way to...'.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:12pm