Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Ffocws Gymraeg ar y diwydiant Cerddoriaeth

Dydd Gwener, 22 Gorffennaf 2005 - 11:00am | Diwydiant |

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod mi fydd Welsh Music Foundation (WMF) yn cynnal dwy seminar trwy gyfrwng y Gymraeg i drafod y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Mae'r seminarau yn digwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd wedi ei leoli ar Ystad y Faenol gerllaw.


  • Hyrwyddo digwyddiadau byw yn yr iaith Gymraeg - Mawrth 2il Awst, 12pm

  • Rhedeg label recordiau fel SME – Mercher 3ydd Awst, 12pm

Cynhelir seminar ynghylch hyrwyddo digwyddiadau byw trwy gyfrwng y Gymraeg ar ddydd Mawrth 2il o Awst. Bydd y seminar yn cael ei arwain gan Guto Brychan, cyn reolwr adloniant Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, ac yn gyfrifol am gydlynu Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'r siaradwyr eraill yn cynnwys yr hyrwyddwr cerddoriaeth Rhys Mwyn, Einion Dafydd o Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â gorolwg o’r gyfraith trwyddedu newydd a'i effaith ar hyrwyddo cerddoriaeth byw gan swyddog trwyddedu o Ogledd Cymru. Pwrpas y digwyddiad yw edrych ar holl agweddau o drefnu gig - o drafod gyda'r artistiaid i redeg y sioe. Bydd y testunau trafod yn cynnwys marchnata, cynllunio ariannol, cytundebau a materion technegol.

Ar y diwrnod canlynol, Dydd Mercher 3ydd o Awst, rhedeg label recordiau fel BBaCh (busnesau bach a chanolig) sydd dan sylw. Cyn reolwr label recordiau a phrif weithredwr WMF Elliot Reuben fydd yn arwain y drafodaeth, ac mi fydd y materion canlynol yn cael sylw yn ystod y prynhawn; cyhoeddi, llif arian a chytundebau cydamseru, marchnata a rheoli prosiectau. Hefyd yn cyfrannu i'r drafodaeth bydd Huw Williams, sylfaenydd Townhill Publishing, ac mi fydd cynrychiolydd o label recordiau cydnabyddedig yn trafod ei brofiadau yn y diwydiant cerddoriaeth.

Bydd y seminarau yn cael ei gynnal yn y Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon - canolfan mentrau creadigol yng Nghaernarfon, ac yn dechrau am 12pm. Bydd y seminarau yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd offer cyfieithu ar gael ar y prynhawn dydd Mercher yn unig. Mae mynediad am ddim, ac yn agored i unrhyw un sydd yn ymwneud a hyrwyddo digwyddiadau byw yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.

Os oes diddordeb ganddo'ch i fynychu un o'r digwyddiadau, neu angen mwy o wybodaeth yna cysylltwch gyda Guto Brychan yn swyddfa Welsh Music Foundation yng Nghaerdydd: (029) 20668127 / guto@welshmusicfoundation.com

Cyfrannwr: Guto Brychan

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:16pm