Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Topper yn dychwelyd am firi yn Miri Madog 2005

Dydd Llun, 04 Gorffennaf 2005 - 4:24pm | Gigs |

Dylai ŵyl lwyddiannus Miri Madog fod yn fwy ac yn well nag erioed eleni, gyda llu o fandiau ar ddau lwyfan dros un penwythnos o haul, diod a'r gerddoriaeth orau.

Bydd dros 20 o fandiau a DJ's amlycaf y sin yno i'ch diddanu gan gynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae Miri Madog yn falch i gyhoeddi fod y band poblogaidd Topper wedi cytuno i ailffurfio'n egsclwsif ar ein cyfer, cyfle eto i fynd yn wyllt i'w trac "Gwefus mefus Glwyfus". Bydd hefyd perfformiadau gan yr enwog Anweledig, cyfle i glywed deunydd newydd Zabrinski, Ashokan, Alun Tan Lan a Kentucky AFC, a chyfle i fynd yn wallgof i Acid Casuals, Frizbee, Poppies a llawer llawer mwy!

Yn y gorffennol mae Miri Madog wedi rhoi llwyfan i rhai o brif fandiau Cymru gan gynnwys Gorky's Zygotic Mynci, The Keys a Melys. Mae'r ŵyl yn dathlu'r dalent, amrywiaeth a chynnwrf sydd yn y sin roc Gymraeg. Dywedodd C2 Radio Cymru fod Miri Madog yn "un o wyliau cerddorol mwya cyffrous y wlad."

Bydd yr ŵyl fawreddog yn cymeryd lle yng Nghlwb Chwaraeon Madog, Porthmadog ar y 12 a 13 Awst. Wedi ei drefnu'n llwyr gan griw ymroddedig o wirfoddolwyr, bydd Miri Madog yn sicr o fod yn benwythnos gwyllt, felly peidiwch â rhoi'r babell i ffwrdd wedi helyntion yr Eisteddfod Genedlaethol!

"Byddwch yno a pheidiwch â cholli un o ddigwyddiadau gorau'r flwyddyn" yw cyngor un o'r trefnwyr, Dyl Mei. Ychwanegodd "Mae'r ŵyl wedi'i leoli yn un o'r llefydd gorau. Cewch ymlacio'n pnawn gyda cherddoriaeth anhygoel, ac yna dawnsio'n wyllt i fandiau gorau Cymru wrth iddi nosi, oes rheswm i beidio dod?"

Bydd maes pebyll ar gael AM DDIM i'r rheini sydd am aros wedi'i leoli wrth ymyl yr ŵyl. Ychwanegodd Gethin Evans, aelod arall o'r criw trefnu, "Dylai unrhyw un sydd am archebu tocynnau wneud hynny cyn gynted a phosib".

Dyma fanylion gigs Miri Madog.

Cyfrannwr: Gethin Evans

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:27pm