Newyddion - Manylion
Nosweithiau newydd yng Nghlwb Ifor Bach
Dydd Gwener, 12 Awst 2005 - 4:08pm | Gigs |
Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi rhagflas o beth fydd ymlaen yn y clwb o nawr tan ddiwedd y flwyddyn, gan cynnwys nifer o nosweithiau newydd cyffrous.
Erbyn dechrau Mis Medi bydd y llawr gwaelod wedi cael ei drawsnewid, ac mi fydd y Clwb yn mynd ati i rhoi llwyfan i fandiau ac artistiaid mwyaf talentog Cymru lawr grisiau yn ogystal â'r gigiau arferol yn y neuadd ar y llawr uchaf.
Bydd noson fandiau misol o'r enw STONC! yn cychwyn ar Fedi 15fed gyda Kentucky AFC yn hyrwyddo eu EP. newydd Iasobe? (allan ar Recordiau Boobytrap) a daw cefnogaeth gan Dyfrig Evans (gynt o Topper) a'r giamsters ifainc Plant Duw, gyda Huw Stephens yn troelli'r tiwns gorau o Gymru a'r bydysawd.
Y mis canlynol fydd tro un o fandiau mwyaf cyffrous yn y sin – Sibrydion - gyda lansiad eu albym newydd Jig-Cal, mae'r cyn-Big Leaves yn troedio llwybr i ben y siartiau yng Nghymru. Daw cefnogaeth y noson honno gan Y Briwsion – band newydd a gig cyntaf Gwion ap Siôn (The Keys / Murry the Hump) gyda’i brosiect newydd. Y Pwsi Meri Mew Movement fydd hefyd yn rocio llawr gwaelod y clwb y noson yna, yn ogystal a'r chwedlonol DJ Ian Cottrell.
Noson Raptastig wedyn gyda Cofi bach a Tew Shady ym mis Tachwedd – syth mas o G'fon - a Syn-D-Cut yn cefnogi gydag Aneirin Karadog, enillydd y gadair yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd wrthi’n rapio a barddoni ar y meic, a daw cefnogaeth glywedol gan feistri y sin electronig Llwybr Llaethog a'r tô ifanc DJ Stabmaster Vinyl.
Bydd y Parti Nadolig yn un dawnsiadwy iawn gyda jazz-fync-rap Ummh a Tŷ Gwydr yn y tŷ (wel, yn y clwb) a Mwsog yn eich croesawu i'r noson gyda mins peis a gwydraid bach o sieri (cariad).
Datblygiad arall yw ACWST-O-RAMA, noson fisol fydd yn dangos talentau eraill artistiaid Cymru mewn arddull fwy "chilled" a llai swnllyd (da ni ddim i gyd ishe mynd i'r moshpit 'da Ashokan chi'n gwybod)…Bydd Gwilym Morus a Brigyn yn dechrau'r hwyl ym mis Hydref, Caryl Parry Jones a Huw ChiswellHeather Jones a Gwyneth Glyn ym mis Rhagfyr.
Os 'ych chi’n dod am sbin i'r Brifddinas i weld ychydig o chwaraeon - be am ddod i'r clwb i flasu ychydig o adloniant a pheint cyn ac ar ôl y gêm?. Pwy well i rhoi'r bŵt mewn i'r Saeson nag MC Saizmundo (ar daith i hyrwyddo'i albym Malwod a Morgrug: Dan Warchae) ar ddiwrnod gêm pêl droed Cymru v Lloegr gyda'r Llofruddion a DJs Y Lladron.
Yn ystod gemau rygbi'r Hydref fe fydd Drymbago, Mattoidz, Gilespi, Y Brodyr Jones, Bob, Rasputin, Pala, Y Di Pravinho a Garej Dolwen i gyd yn eich croesawu, yn ogystal a'r disco danjerys "Clwb Cariad" sy’n plesio ar lawr gwaelod y clwb.
Ar nos Galan bydd Ashokan, Radio Luxembourg a miloedd o DJs yn croesawu'r flwyddyn newydd mewn steil.
Fel arfer fe fydd manylion pob gig ar gael yma yn yr adran gigs.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:23pm