Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Tyrfe Tawe 2005

Dydd Mawrth, 27 Medi 2005 - 4:50pm | Gigs |

Mae awel oer yr hydref ar ei ffordd, a'r Sesiwn Fawr, y 'Steddfod a Miri Madog yn atgofion niwlog, pell. Mae dy liw haul wedi diflannu, a dydy'r stynnar gwrddaist ti yn Maes B ddim yn ateb dy alwadau. Ond paid â digalonni, dydy popeth ddim ar ben. Mae un ŵyl arall ar ôl, a fydd yn sicr o godi dy galon: Tyrfe Tawe 2005.

Wedi llwyddiant ysgubol Tyrfe llynedd, mae Tyrfe 2005 yn argoeli i fod hyd yn oed yn well, gyda noson ychwanegol o gerddoriaeth fyw yng nghwmni perfformwyr gorau'r sîn Gymraeg. Unwaith eto, bydd y bandiau'n perfformio mewn gwahanol leoliadau yng nghanol bwrlwm dinas Abertawe. Bydd y cyfan yn Gymraeg, a'r cyfan am ddim! Dyma fydd yr arlwy:

Mae'r ŵyl yn dechrau ar nos Iau, 13 Hydref yn y Queens gyda sesiwn werin lle fydd Dan Morris, Marc Weinzweig a Mari Lwyd yn chwarae.

Ar y nos wener yn Adda ac Efa, fe fydd cyfle i weld y grwpiau Merched Becca, Chouchen a Neil Rosser a'r band.

Fore sadwrn ar Heol Rhydychen fe fydd grwpiau amrywiol yn bysgio ac yna noson gyffrous yn Inferno gyda Java, Gilespi, Fflur Dafydd a'r Barf, Mattoidz a Frizbee

I gloi pethe, ar y nos Sul fe fydd Gareth Phillips a Lisa Pedrick yn perfformio yn yr Adelphi.

Dyma fanylion llawn y gigs sy'n rhan o'r ŵyl.

Cyfrannwr: Tyrfe Tawe

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:28pm