Newyddion - Manylion
Cwpan Coroni Brwydr y Bandiau 2005
Dydd Llun, 17 Hydref 2005 - 3:59pm | Gigs |
Mae Clwb Ifor Bach yn falch o gyhoeddi y bydd "Cwpan Coroni Brwydr y Bandiau" gyntaf yn digwydd yng Nghlwb Ifor Bach.
Mae'r Clwb wedi dod ag ennillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru 2005, sef y band No Star o ardal Wrecsam, a fydd yn brwydro yn erbyn y band Y Derwyddon o ochrau Caernarfon, a ennillodd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2005. Mi fydd yna set gan Java, ennillwyr Brwydr y Bandiau y llynedd, i orffen y noson, tra bod y beirniaid yn pendroni ar bwy sydd wedi ennill y tlws a theitl arbennig yma.
Y beirniaid ar y noson bydd:
Owain Schiavone (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
Bedwyr ap Gwyn (Menter Iaith Abertawe)
Ian Cottrell (Bandit - S4C)
Fe fydd y troeddwr adnabyddus Dafydd Du o C2 (BBC Radio Cymru) yn diddanu'r gynulleidfa rhwng y bandiau. Dai Lloyd, rheolwr adloniant Cymraeg Clwb Ifor Bach bydd yn cyflwyno'r tlws i'r band buddugol. Bydd yr ennillwyr yn cael eu wahodd yn ôl i chwarae yn yr un ornest yn 2006.
Dywedodd Dai Lloyd: "Mae hyn y ffordd arbenning i fandiau ifainc Cymru codi eu proffeil yng Nghymru - ar ol yr holl waith caled gan C2, y Mentrau Iaith a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, roeddwn yn teimlo bod hwn yn ffordd dda I gadw'r ddiddordeb yn y bandiau. Mae'n bwysig bod Clwb Ifor Bach yn helpu ddatblygiad bandiau ifainc Cymru, achos nhw, mwy na dim, yw dyfodol y Clwb."
Mi fydd y noson yma ar ddydd Sadwrn Hydref 22 - dyma fanylion llawn y gig
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:27pm