Newyddion - Manylion
No Star yn ennill Cwpan Coroni Brwydr y Bandiau 2005
Dydd Llun, 24 Hydref 2005 - 12:03pm | Artistiaid |
Llun: Gwenno DafyddEnnillodd y band No Star o ardal Wrecsam, gwpan Coroni Brwydr y Bandiau 2005 yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd dros y Sul. Cafwyd gornest rhwng No Star, a ennillodd Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru a'r Derwyddon a ennillodd Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2005.
Cafwyd setiau bywiog gan y ddau fand, er bod ganddynt arddulliau wahanol - No Star yn fwy roc, a'r Derwyddon yn ffync, ill ddau yn plesio'r gynulleidfa ifanc oedd yn y Clwb. Ar ddiwedd y noson fe gafwyd perfformiad gan y band Java a ennillodd y cystadlaethau llynedd. Y beirniaid ar y noson oedd Owain Schiavone (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Bedwyr ap Gwyn (Menter Iaith Abertawe) ac Ian Cottrell (Bandit/S4C), a chafwyd adloniant rhwng y bandiau gan DJ Dafydd Du (C2 Radio Cymru).
Fe ddywedodd Owain Schiavone: "Roedd o bron yn amhosib dewis rhwng y ddau fand, ond bwriad cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yw creu fwy o ddiddordeb yn y sîn roc Gymraeg gyda phobl ifanc yng Nghymru, a dwin meddwl 'da ni wedi llwyddo i wneud hynny."
Ychwanegodd Dai Lloyd, rheolwr adloniant Cymraeg Clwb Ifor Bach: "Llongyfarchiadau mawr i No Star, ac hefyd i'r Derwyddon am gael y gynulleidfa i ddawnsio fel ffyliaid! Bydd No Star yn cael gwahoddiad yn ôl i chwarae yn yr un gystadleuaeth pan fyddent yn ymddangos gyda ennillwyr y cystadlaethau blwyddyn nesa.".
Cyfrannwr: Dai Lloyd
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:27pm