Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

No Star yn ennill Cwpan Coroni Brwydr y Bandiau 2005

Dydd Llun, 24 Hydref 2005 - 12:03pm | Artistiaid |

No Star yn derbyn y tlws gan Owain Schiavone a Bedwyr ap Gwyn
Llun: Gwenno Dafydd
Ennillodd y band No Star o ardal Wrecsam, gwpan Coroni Brwydr y Bandiau 2005 yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd dros y Sul. Cafwyd gornest rhwng No Star, a ennillodd Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru a'r Derwyddon a ennillodd Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2005.

Cafwyd setiau bywiog gan y ddau fand, er bod ganddynt arddulliau wahanol - No Star yn fwy roc, a'r Derwyddon yn ffync, ill ddau yn plesio'r gynulleidfa ifanc oedd yn y Clwb. Ar ddiwedd y noson fe gafwyd perfformiad gan y band Java a ennillodd y cystadlaethau llynedd. Y beirniaid ar y noson oedd Owain Schiavone (Cymdeithas yr Iaith Gymraeg), Bedwyr ap Gwyn (Menter Iaith Abertawe) ac Ian Cottrell (Bandit/S4C), a chafwyd adloniant rhwng y bandiau gan DJ Dafydd Du (C2 Radio Cymru).

Fe ddywedodd Owain Schiavone: "Roedd o bron yn amhosib dewis rhwng y ddau fand, ond bwriad cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yw creu fwy o ddiddordeb yn y sîn roc Gymraeg gyda phobl ifanc yng Nghymru, a dwin meddwl 'da ni wedi llwyddo i wneud hynny."

Ychwanegodd Dai Lloyd, rheolwr adloniant Cymraeg Clwb Ifor Bach: "Llongyfarchiadau mawr i No Star, ac hefyd i'r Derwyddon am gael y gynulleidfa i ddawnsio fel ffyliaid! Bydd No Star yn cael gwahoddiad yn ôl i chwarae yn yr un gystadleuaeth pan fyddent yn ymddangos gyda ennillwyr y cystadlaethau blwyddyn nesa.".

Cyfrannwr: Dai Lloyd

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:27pm