Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Dynamic yn chwarae 'fo tân

Dydd Iau, 20 Hydref 2005 - 3:42pm | Artistiaid |

DynamicMae'r band pop Dynamic wedi ryddhau ei ail EP. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o artistiaid pop mae Dynamic yn honni eu bod yn fand go iawn.

Nid clyweliad gyda rheolwr ddaeth a'r genod at ei gilydd, ond eu cariad at gerddoriaeth ac yr hwyl o fod mewn band ac yn bwysicach mae Dynamic yn sgrifennu eu caneuon ei hunain

Mae Dynamic yn enw cyfarwydd i lawer erbyn hyn. Maent wedi perfformio yn nifer o brif wyliau Cymru, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau a'r Steddfod ac maent wedi cael y fraint o gefnogi rhai o brif artistiaid y sin pop rhyngwladol, fel Liberty X ac Emma Bunton.

Mae'r CD newydd Chwarae 'fo tân ar gael yn y siopau nawr ac yn yn cynnwys y caneuon "Ein Ffantasi" a "Chwarae 'fo tân" sydd yn gyfarwydd i wrandawyr Champion FM a BBC Radio Cymru.

Ewch i wefan Dynamic am fwy o wybodaeth am y band.

Am fwy o fanylion am y CD cysylltwch a Dynamic: 07788 893 921 neu Rheolaeth Gwynfryn: 01286 673 136 / 01286 650 523

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:27pm