Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Amserlen newydd i Glwb y Rheilffordd

Dydd Mawrth, 18 Hydref 2005 - 2:23pm | Gigs |

Mae Maes B yn falch o gyhoeddi ei bod yn trefnu cyfres o gigs yng Ngogledd Cymru. Dylai'r rheini sydd â diddordeb brwd mewn cerddoriaeth ymweld â Chlwb y Rheilffordd ym Mangor ar Dachwedd 12 i fynychu'r noson gyntaf o'i math.

Y rocwyr Kentucky AFC fydd yn perfformio ynghyd â Winabego - sy'n llawn addewid a cherddoriaeth ffync DJ Dyl Bili. Hefyd yn perfformio bydd y grwp ifanc ôl-pync, Plant Duw – enillwyr teilwng o gystadleuaeth Brwydr y Bandiau Eisteddfod 2005.

Mae Kentucky AFC newydd orffen taith Cymru, Lloegr a Llanrwst a aeth â chaneuon bythgofiadwy'r Cyrff ar daith gyda thri band arall i gydfynd a rhyddhad bocs-set o ganeuon Y Cyrff rhwng 1983 a 1992. Mae Kentucky AFC bellach yn awyddus i ddychwelyd i'w cerddoriaeth roc gorfwyaf. Dywedodd Gethin Evans, drymiwr Kentucky AFC, "Roedd y daith yn wych a nawr rydyn ni'n edrych ymlaen at berfformio ein caneuon newydd sydd eisoes wedi'i recordio ar gyfer ein halbwm newydd."

Rhyddhawyd EP hir ddisgwyliedig Kentucky AFC, Iasobe? yn gynharach eleni sy'n cynnwys 5 trac a gafodd eu recordio yn stiwdio Music Box yng Nghaerdydd.

Ar ôl llwyddiant ysgubol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol mae Winabego wedi bod yn brysur ymgartrefu gydag aelod newydd, Iwan Evans cynt o Topper. Gyda wyneb newydd yn ei le, EP a sengl a allwch chi lwytho i lawr, mae'n edrych fel blwyddyn addawol i'r bechgyn o Fethesda sydd ar fin ryddhau ei halbwm gyntaf.

Mae Maes B wedi rhoi llwyfan i rhai o brif fandiau Cymru gan ddathlu'r dalent, amrywiaeth a chynnwrf sydd yn y sîn roc Gymraeg a nawr bydd y nosweithiau ar gael yn awyrgylch hamddenol Clwb y Rheilffordd, Bangor.

Dywedodd Guto Brychan, "Mae hyn yn gyfle gwych i greu dilyniant i'r Eisteddfod eleni. Gyda dros 10,000 o bobl yn mynychu Maes B ym mis Awst mae'n amlwg fod yna alw mawr am ddigwyddiadau rheolaidd yn yr ardal, a gyda chymaint o fandiau newydd yn dod i'r amlwg mae'r cyfle i rhoi cynulleidfa iddynt yn bwysig iawn."

Dyma restr o'r gigs fydd ymlaen yng Nghlwb y Rheilffordd

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:25pm