Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Dyddiau da i Drymbago

Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2005 - 11:05am | Artistiaid |

Dyddiau DaBydd Drymbago yn lawnsio ei albwm newydd Dyddiau Da ym mharti 'dolig Maes B, sydd yn cael ei gynnal yng nglwb y Rheilffordd Bangor ar y 10fed o Ragfyr.

Mae'r band afro beat, sy'n plethu amryw o arddulliau gwahanol yn ei set - gan gynnwys jazz a cerddoriaeth lladin - wedi derbyn adolygiadau gwych ers i nhw lanio ar y sîn dwy flynedd yn ôl. Mae Gwilym Morus, canwr y band, yn adnabyddus fel canwr o fri, gyda nifer yn ei gymharu i Nick Drake. Dywedodd:

"Rydym yn edrych ymlaen i lawnsio'r albwm yng Nghlwb y Rheilffordd. Chwaraeom un o'n gigs cyntaf yno, ac mi roedd yn un o'r gigs gorau i ni erioed ei gael. Ma na awyrgylch ffwrdd a hi yno – jyst mynd ati a chwarae."

Yn rhannu'r llwyfan gyda Drymbago ar y noson bydd band newydd – Genod Droog, prosiect cerddorol cyffrous gan rhai o gerddorion mwyaf adnabyddus y sin; y cynhyrchydd Dyl Mei, drymiwr Kentucky AFC Gethin Evans, rapiwr Pep Le Pew Ed Holden a'r DJ Kim de Bills. Mae'r band yn rhoi pwyslais arbennig ar chwarae'n fyw, gan wahodd cerddorion megis Gwyneth Glyn i gyfrannu i'r mics. Disgrifiodd Dyl Mei ei arddull "yn gyfuniad o gerddoriaeth electroneg, seicadelic, soul, indie a hip hop."

Bydd y rapiwr di-flewyn ar dafod Saizmundo yno i fwrw ei farn ar bawb a phopeth, a mi fydd ei set yn siwr o gynnwys rhai o uchafbwyntiau ei ail albwm Malwod a Morgrug: Dan Warchae a gafodd ei rhyddhau yn ddiweddar.

Yn dechrau'r noson bydd band ifanc addawol o ochrau Llanberis a enillodd cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn yr Eisteddfod eleni, Derwyddon Dr Gonzo. Ers mis Awst mae'r band wedi bod yn gigio'n ddi-ddwedd ar hyd a lled Cymru gan ddenu clod a chanmoliaeth ym mhob gig.

Mae Maes B yn dathlu'r gorau o'r sîn yng Nghymru gan gyflwyno cyfuniad o artistiad adnabyddus a pherfformwyr newydd yn awyrgylch arbennig Clwb y Rheilffordd. Dewch am dro i brofi'r wefr.

Manylion y gig

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:30pm