Newyddion - Manylion
Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2006
Dydd Sadwrn, 28 Ionawr 2006 - 7:08pm | Artistiaid |
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, prif drefnwyr gigiau Cymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 gyda'r ffeinal i'w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe fis Awst, a'r pecyn gwobrau gorau eto i’r enillwyr lwcus.
Nod y gystadleuaeth yw dod o hyd i a rhoi llwyfan i dalentau newydd Cymraeg a rhoi hwb ymlaen iddynt fod yn llwyddianus yn y Sin Roc Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Yn hyn o beth mae Brwydr y Bandiau wedi bod yn hynod effeithiol yn y gorffennol gyda Java a Pala – cyd-enillwyr yng Nghasnewydd 2004, a'r Derwyddon – buddugwyr 2005 , wedi parhau i gigio'n gyson ers eu llwyddiant tra fo Mattoidz – ennillwyr eisteddfod Ty Ddewi 2002 bellach yn un o fandiau amlycaf a mwyaf poblogaidd Cymru.
Er mai bandiau ifanc sydd yn draddodiadol wedi cystadlu mae'r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Yr unig amodau yw fod y band yn gallu cynnal set 15 munud o ganeuon Cymraeg gwreiddiol ac nad ydynt eisioes wedi recordio unrhyw gynyrch. Ni all band ychwaith gystadlu os wnaethant ymddangos yn ffeinal llynedd, er fod croeso i rai na aeth ym mhellach na'r rhagbrofion gystadlu eto.
Bydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 yn cael cyfle i:
- Chwarae ar Sadwrn ola'r Steddfod Genedlaethol, gan gefnogi rhai o brif fandiau Cymru
- Recordio sesiwn ar gyfer C2 ar Radio Cymru
- Sesiwn recordio a chyfle i ryddhau deunydd ar label Rasal.
- Cyfres o gigs wedi'u trefnu gan Gymdeithas yr iaith mewn gwahanol rannau o Gymru.
- Ffilmio fideo ar gyfer Bandit
Meddai Owain Schiavone, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:
"Un o'r problemau mwyaf sy’n wynebu bandiau ifanc – ac mae yna ddigonedd ohonyn nhw ledled Cymru – ydi gwneud y break-though cynta: y gig cynta a'r recordiad cynta. A dyna ydi pwrpas Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith sef rhoi'r cyfle yna i fandiau newydd berfformio ar lwyfan, nid yn unig yn yr Eisteddfod ei hun ond yn ystod y flwyddyn wedyn. Ac wrth gwrs mae'r cyfle i recordio eu deunydd yn rhywbeth y mae pob band sy'n dechrau allan yn breuddwydio amdano a rydan ni yn falch iawn o allu gwireddu hyn ac wrth gwrs ychwanegu at gryfder y Sin Roc Gymraeg yr un pryd. Bandiau ifanc ydi dyfodol cerddoriaeth Gymraeg wedi'r cyfan, a busawn i’n annog unrhywun sydd mewn band i roi cynnig ar y gystadleuaeth."
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydi Mawrth 31ain 2006.
Mae ffurflen gofrestru ar gael o wefan y Gymdeithas a drwy ebostio adloniant@cymdeithas.com neu ffonio'r Swyddfa ar 01970 624501.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:32pm