Newyddion - Manylion
Gorymdaith Dewi ar ei ffordd!
Dydd Mercher, 25 Ionawr 2006 - 2:20pm | Gigs |
Bydd Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi yn y brifddinas yn cychwyn am 3 o'r gloch, brynhawn dydd Mercher, Mawrth 1. Man cychwyn yr Orymdaith fydd Gerddi Soffia (ger tafarn 'Y Mochyn Du' ). Fe aiff yr Orymdaith ar ei hynt wedyn i lawr Heol y Gadeirlan, ar hyd Stryd Westgate, Wood Street, ac i fyny Heol y Santes Fair, gan orffen o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol ym Marc Cathays.
'Mae'r Orymdaith yn agored i bawb,' medd Gareth Westacott, ar ran Pwyllgor Llywio'r Orymdaith, '... ac yn gyfle i bobl Cymru, beth bynnag eu hoedran, eu cefndir ethnig neu gefndir cymdeithasol, i bobl o dras Cymreig (neu y rhai sydd am fod yn Gymry! ), i ymuno mewn dathliad creadigol ac urddasol o ddiwylliant, treftadaeth, ac hunaniaeth Cymru.'
Caiff pobl hefyd ddangos eu cefnogaeth i'r Orymdaith a mwynhau noson wych o gerddoriaeth yn ogystal, drwy ddod i gig 'Gorymdaith Dewi' yng Nghlwb Ifor Bach a fydd yn codi arian at yr orymdaith.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:31pm