Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Gorymdaith Dewi ar ei ffordd!

Dydd Mercher, 25 Ionawr 2006 - 2:20pm | Gigs |

Gorymdaith Dydd Gwyl DdewiBydd Gorymdaith Genedlaethol Dydd Gwyl Dewi yn y brifddinas yn cychwyn am 3 o'r gloch, brynhawn dydd Mercher, Mawrth 1. Man cychwyn yr Orymdaith fydd Gerddi Soffia (ger tafarn 'Y Mochyn Du' ). Fe aiff yr Orymdaith ar ei hynt wedyn i lawr Heol y Gadeirlan, ar hyd Stryd Westgate, Wood Street, ac i fyny Heol y Santes Fair, gan orffen o flaen yr Amgueddfa Genedlaethol ym Marc Cathays.

'Mae'r Orymdaith yn agored i bawb,' medd Gareth Westacott, ar ran Pwyllgor Llywio'r Orymdaith, '... ac yn gyfle i bobl Cymru, beth bynnag eu hoedran, eu cefndir ethnig neu gefndir cymdeithasol, i bobl o dras Cymreig (neu y rhai sydd am fod yn Gymry! ), i ymuno mewn dathliad creadigol ac urddasol o ddiwylliant, treftadaeth, ac hunaniaeth Cymru.'

Caiff pobl hefyd ddangos eu cefnogaeth i'r Orymdaith a mwynhau noson wych o gerddoriaeth yn ogystal, drwy ddod i gig 'Gorymdaith Dewi' yng Nghlwb Ifor Bach a fydd yn codi arian at yr orymdaith.

Dyma fanylion llawn y gig

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:31pm