Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Cynhadledd y Diwydiant Cerddoriaeth Gymraeg

Dydd Iau, 09 Chwefror 2006 - 10:10am | Diwydiant |

NODER: Mae'r digwyddiad hwn wedi ei ohirio tan yn hwyrach yn y flwyddyn

Mae'r Welsh Music Foundation yn trefnu cynhadledd arall i'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. Fe'i cynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar 4-5 Mawrth a bydd yn trafod y meysydd canlynol:

  • Y defnydd o gerddoriaeth ar deledu a radio yng Nghymru
  • Dosbarthu corfforol a digidol
  • Marchnata rhanbarthol
  • Datblygu cynulleidfa
  • Hyrwyddo cerddoriaeth fyw
  • Gwerthu cerddoriaeth Gymraeg y tu allan i Gymru

Ymysg rhai o'r siaradwyr sydd wedi cadarnhau mae:

  • Aled Glynne (Radio Cymru)
  • Ceri Sherlock (S4C)
  • Ian Cottrell (Boomerang)
  • Rhys Mwyn
  • Owain Schiavone (Cymdeithas yr Iaith)

Roedd cynhadledd y llynedd yn Aberystwyth yn llwyddiant mawr gyda busnesau cerddoriaeth o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i drafod y materion sy'n wynebu'r diwydiant. Bydd manylion pellach am y sesiynau a'r siaradwyr yn cael eu cyhoeddi yn yr wythnos neu ddwy nesaf. Mae'r holl ddigwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un sydd yn gweithio yn diwydiant cerddoriaeth Gymraeg neu gyda diddordeb i weithio yn y diwydiant. I gofrestru neu i dderbyn rhagor o wybodaeth am y gynhadledd anfonwch e-bost at guto@welshmusicfoundation.com

Cyfrannwr: Guto Brychan

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:33pm