Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Gigs CyI yn Eisteddfod Abertawe 2006

Dydd Mawrth, 18 Ebrill 2006 - 2:20pm | Gigs |

Er bod rhai misoedd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, mae bwrlwm digwyddiadau adloniant yr wythnos eisoes wedi dechrau wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi lleoliadau eu gigs.

Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal wythnos llawn o gigs yn ystod yr Eisteddfod eleni, a hynny mewn dwy o ganolfannau gorau yr ardal.

Y cyntaf o'r rhain yw Bar 5 yn nghlwb nos Barons sydd reit yng nghanol y ddinas. Bydd y ganolfan yn adnabyddus i unrhywun fynychodd yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ymweld â Abertawe gan mae yno oedd gigs y Gymdeithas bryd hynny hefyd. Bydd yn gyfarwydd iawn i ffans o'r ffilm 'Twin Town' hefyd gan fod nifer o'r golygfeydd wedi eu ffilmio yno.

Yr ail ganolfan fydd yn llwyfannu gigs y Gymdeithas fydd y Glamorgan Arms ger pentref Pontlliw ar gyrion y ddinas. Mae'r ganolfan yn boblogaidd gyda Chymry Cymraeg yr ardal ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau diwyllianol Cymraeg yn gyson. Mae'r ganolfan ond tafliad carreg o leoliad Maes Carafannau'r Eisteddfod eleni ym Mhontlliw.

Bydd y Gymdeithas unwaith eto yn cynnig arlwy o fandiau ac artistiaid gorau Cymru gyda rhywbeth ar gyfer pob blas cerddorol. Ymysg y prif fandiau ac artistiaid sydd wedi eu cadarnhau mae Radio Luxembourg, Frizbee, Bob Delyn a'r Ebillion, Sibrydion, Geraint Løvgreen, Meic Stevens, Euros Childs a llawer, llawer mwy.

Dywedodd Swyddog Adloniant y Gymdeithas, Owain Schiavone:

"Rydym wrth ein bodd i fod wedi gallu cael gafael ar ddwy ganolfan cystal ar gyfer ein gigs eleni. Rydym yn gweld Bar 5 fel cyfle gwych i bobl flasu bywyd nos Abertawe, yn ogystal a chyflwyno diwylliant Cymraeg i drigolion y ddinas. Roedd y Glamorgan Arms hefyd yn ddewis amlwg gan fod nosweithiau Cymraeg yn cael eu cynnal yno'n aml. Eisoes mae pethau'n edrych yn gynhyrfus iawn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr."

Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:36pm