Newyddion - Manylion
Gŵyl Newydd fel Ffenics o Fflamau Bont
Dydd Llun, 05 Mehefin 2006 - 12:38pm | Gigs |
Bydd mynychwyr Gig Mawr Bont yn teimlo fel eu bod wedi cymryd cam nol i'r gorffennol mewn sawl modd, wrth i Bafiliwn Pontrhydfendigaid gynnal ei ddigwyddiad cenedlaethol cyntaf ar ei newydd wedd ar Orffennaf 8fed.
Ymysg y rhai fydd yn perfformio bydd enw mwyaf i Sîn Gerddoriaeth Gymraeg dros y 4 degawd diwethaf, Dafydd Iwan, yn ei gig mawr cyntaf ers blynyddoedd. Hefyd yn perfformio fydd un o fandiau roc mwyaf poblogaidd dechrau'r 90au, Jess yn ogystal a'r artistiaid cyfoes poblogaidd Elin Fflur a Dyfrig 'Topper' Evans.
Bydd yr Ŵyl gerddorol yn atgoffa nifer o'r digwyddiadau enfawr fel y Pinaclau Pop a Rhyw Ddydd, Un Dydd oedd yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn cyn i dân ei ddifrodi ym 2000. Dywedodd Owain Schiavone, rheolwr newydd y Pafiliwn:
"Bydd gweld Dafydd Iwan a Jess yn perfformio yn atgoffa pobl o'r digwyddiadau oedd yn arfer cael eu cynnal yn Bont, ond rydym yn gobeithio y bydd yn sbarduno datblygiad digwyddiadau tebyg unwaith eto."
Bydd Gig Mawr Bont yn marcio penllanw prosiect £2¼ miliwn i ail-adeiladu'r ganolfan. Er i'r Pafiliwn agor mewn pryd i Eisteddfod Pantyfedwen ddiwedd Ebrill, yr Wyl yma fydd y cyfle cyntaf lenwi'r ganolfan sy'n dal 2000 o bobl. Dywedodd Owain:
"Mae hwn yn adnodd arbennig iawn nad oes tebyg iddo yng Ngorllewin Cymru ac rydym yn edrych ymlaen i arddangos y math o ddigwyddiadau all gael eu cynnal yma. Hon fydd gŵyl fawr gyntaf yr haf a gŵyl gyntaf y Pafiliwn newydd - heb os bydd yn ddiwrnod i'w gofio."
Am ragor o wybodaeth neu archebu tocynnau, gellir cysylltu â Owain Schiavone ar 07813 050 145.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:37pm