Newyddion - Manylion
Beirdd v Rapwyr Eisteddfod Abertawe
Dydd Gwener, 28 Gorffennaf 2006 - 4:32pm | Gigs |
Mae rhai o feirdd Cymru yn ymgynnull yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ar nos Lun Awst 7fed. Ond nid ar y maes yn eu gwisgoedd gorseddol ond yn y Glamorgan Arms Pontlliw. Nid i eistedd mewn gornel tywyll dros beint, yn synfyfyrio am fywyd ac y rheswm i fyw a bod, cawn nhw ddim amser i wneud hynna, oherwydd mi fydda nhw yn rhy brysur yn amddiffyn eu hunain rhag geiriau caled rapwyr gorau Cymru.
Bydd Geraint Lovgreen, Gwyneth Glyn, Twm Morys a Gwenno Mair Davies yn ceisio osgoi geiriau cryf Ed Holden, Steffan Cravos a MC Saizmundo, a cwffio yn ôl i gipio coron Enillwyr Beirdd v. Rapwyr Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Yn y canol yn cadw trefn fydd y Meuryn, neu y Godrapiwr fel mae'n cael ei alw, sef Aneirin Karadog, ac yn ei gynorthwyo bydd DJ Dyl Mei.
Mae'r noson yn cael ei drefnu ar y cyd gan Menter Iaith Abertawe, Mentrau Iaith Cymru a Cymdeithas Yr Iaith. Mae' hefyd yn lansiad taith Beirdd v. Rapwyr fydd yn teithio i Rhosllannerchrugog, Llangadfan Powys, Sarn Pen Llyn, Pumsaint, Aberystwyth a Llanrwst ym mis Hydref a Tachwedd. Manylion pellach ar wefan Beirdd v Rapwyr.
Felly byddwch yn barod am yr ornest, a noson llawn brwydro, colbio, curo, cwffio, ffeitio, paffio, sgrapio, taro. Bydd rhyfel, ymrafael, ymaflyd, cyweirio, gwrthdaro, helynt, trafferth a llanast, ond gobeithio bydd dim gwaed a dim ond geiriau.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:38pm