Newyddion - Manylion
Dan y Cownter 2
Dydd Mercher, 02 Awst 2006 - 12:00pm | Artistiaid |
10 Cân, 10 label a 10 rheswm da dros wrando ar CD Dan y Cownter 2
1. CD newydd sbon yn cynnwys 10 can wedi'u dewis gan y DJ Huw Stephens o Radio 1 a Radio Cymru yw CD Dan y Cownter 2.
2. Mae'r CD yn cael ei lansio ar ddydd Mercher 9 Awst ar stondin Dan y Cownter, yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch. Mae stondin Dan y Cownter yn rhoi cyfle i 12 o labeli a chwmnïau cerddoriaeth Cymraeg i hyrwyddo eu gwaith a gwerthu CD's ar faes yr Eisteddfod.
3. Bydd 10,000 o gopïau yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim dros y misoedd nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol, prosiectau ieuenctid, gwyliau cerddorol yr haf, taith ysgolion Bandit/C2 a nifer o lefydd eraill. Bydd copïau o'r CD ar gael drwy gydol yr wythnos ar stondin Dan y Cownter.
4. Pwrpas yr albym yw adlewyrchu bwrlwm a chyfoeth byd Cerddoriaeth Gyfoes Gymraeg a thynnu sylw at y datblygiad a'r diddordeb yn y byd yma yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
5. Mae CD Dan y Cownter 2 yn cynnwys caneuon gan Radio Luxembourg; Swci; Boscawen; Mim Twm Llai; Genod Droog; Stiches; Richard James; Sibrydion; Y Diwygiad; Ryan Kift ac Acid Casuals.
6. Mae Huw Stephens yn dweud "Mae'n rhwydd iawn mwynhau Dan y Cownter 2 - rhowch y CD yn y peiriant a gadewch i'r gerddoriaeth wneud gweddill y gwaith. Fe ddewisais y traciau a'r artistiaid am eu cryfderau. Mae llawer yn digwydd gyda cherddoriaeth gyfoes Gymraeg yn barhaol".
7. Mae'r CD, sy'n cynnwys hip hop, gwerin, roc a phop gyda enwau cyfarwydd a newydd, wedi cael ei gynhyrchu yn dilyn llwyddiant y CD gwreiddiol a lansiwyd llynedd ac a gafodd eu dosbarthu i filoedd o bobl ifanc ledled Cymru.
8. Mae llyfryn wedi ei gynnwys gyda'r CD yn nodi manylion labeli recordio, gwyliau cerddorol, gigs rheolaidd, safleoedd gwe a ffansins.
9. Meddai Huw Stephens, "Rwy'n credu fod 3 peth yn gyffredin i bob artist dwi 'di dewis ar y CD, sef bod gyda nhw dalent, yn brysur ac yn creu cerddoriaeth wych."
10. Dylai unrhyw un a hoffai dderbyn copi ddanfon ebost gyda'ch cyfeiriad.
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:38pm