Newyddion - Manylion
Taith Newydd i Fandiau Cymraeg
Dydd Mawrth, 10 Hydref 2006 - 3:24pm | Gigs |
Bydd Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio eu prosiect gigs diweddaraf ar ddiwedd mis Tachwedd wrth i Daith Tafod gael ei chynnal am y tro cyntaf.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arloesi ym myd hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ers degawdau. Maent wedi trefnu gigs yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers y 1970au, yn ogystal â gigs ledled Cymru yn ystod gweddill y flwyddyn. Yn ystod y blynyddoedd diweddar maent hefyd wedi sefydlu nosweithiau misol llwyddiannus yng Nghaerdydd gydag Abri ac Aberystwyth gyda Naws.
Erbyn hyn mae'r tîm adloniant wedi adnabod bwlch yn y sîn Gymraeg sydd angen ei lenwi, fel yr eglura'r Swyddog Adloniant, Owain Schiavone:
"Mae llawer o gigs yn cael eu cynnal y dyddiau yma, sy'n wych wrth gwrs, ond does dim llawer o strwythur iddynt. Y syniad gyda'r daith yw ei bod yn uchafbwynt yn y calendr gigs ac yn rhywbeth i fandiau anelu ati ac i'r gynulleidfa edrych ymlaen ati."
Credant y bydd y daith yn fuddiol i fandiau a labeli. Medd Owain:
"Mae angen datblygu headiners go iawn ar hyn o bryd a dwi'n meddwl y bydd teithiau fel hyn yn codi statws artistiaid yn genedlaethol. Gobeithio y bydd hefyd yn cymryd y baich o drefnu gigs i hyrwyddo CD's oddi-ar y labeli, gan nad dyna yw eu rôl mewn gwirionedd. Rydym yn gobeithio gweithio'n agos gyda labeli a defnyddio bandiau sy'n rhyddhau deunydd newydd."
Bwriada'r Gymdeithas ryddhau gwybodaeth ynglyn â'r bandiau fydd yn perfformio fel rhan o'r daith gyntaf yn ogystal â'r union ddyddiadau a lleoliadau yn ystod yr wythnosau nesaf, felly byddwch yn barod!
Cyfrannwr: Owain Schiavone
Diweddarwyd: 21 Hydref 2006, 7:38pm