Newyddion - Manylion
Taith gan Mim Twm Llai i lansio albym newydd
Dydd Mawrth, 31 Hydref 2006 - 4:51pm | Gigs |
Mae Mim Twm Llai ar daith i lansio ei albym newydd. Mi fydd y daith yn ddathliad o dri albwm gan un o gyfansoddwyr gorau Cymru - cyfle gwych i weld Mim Twm Llai yn perfformio ei ganeuon mewn dull unigryw!
Gyda chasgliad o ganeuon amrywiol a deinamig, mae Mim Twm Llai yn plethu arddulliau gwerin, gwlad, Americana, reggae a roc i greu sŵn acwstig amgen ac unigryw. Ysbrydoliaeth bennaf Mim Twm Llai yw ardal chwarelu Blaenau Ffestiniog, sef bro ei febyd, a chawn gyflwyniad o fywyd a chymeriadau unigryw'r ardal trwy ei ganeuon hwyliog, ffres a chlyfar.
I gyd-fynd gyda'i drydydd albwm - Yr Eira Mawr - fydd yn y siopau dechrau mis Rhagfyr, mae Mim Twm Llai (a'r band) yn teithio theatrau Cymru yn cyflwyno'r daith - Croestoriad. Cyfle gwych i fwynhau Mim Twm Llai yn perfformio croesdoriad o'i ganeuon mewn dull unigryw! Noson sy'n addas i bob oedran!
Diweddarwyd: 31 Hydref 2006, 5pm