Newyddion - Manylion
Ffatri Gerddoriaeth Llanrwst yn parhau i gynhyrchu
Dydd Gwener, 24 Tachwedd 2006 - 5:24pm | Artistiaid |
Bydd y grŵp diweddaraf i ddod allan o ffatri gerddoriaeth Llanrwst, Jen Jeniro, yn rhyddhau eu CD cyntaf yn ystod gŵyl Llanast Llanrwst eleni. Yn wir, bydd y band yn rhannu llwyfan gyda'r cerddorion enwocaf i ddod o'r dref yn ffurf Marc Roberts a Paul Jones yn gig mawr yr Ŵyl ar nos Wener 1af Rhagfyr wrth gefnogi eu prosiect newydd, Y Ffyrc.
Bydd yr E.P. Tallahassee yn cynnwys 7 can ac mae'r band yn falch o allu rhyddhau'r CD mewn awyrgylch cartrefol. Dywedodd y prif ganwr Eryl Jones, "ma'r band ar wasgar braidd ar hyn o bryd gyda 3 ohonom ni wedi mynd i'r coleg, ond bydd hi'n braf mynd nôl i Lanrwst i lansio'r EP. Bydd hi hefyd yn wych i gefnogi Y Ffyrc - mae cerddoriaeth Y Cyrff wedi dylanwadu'n fawr arnom ni, gymaint nes bod ni wedi cynnwys cover o'r gan Ar Goll ar y CD newydd!"
Daeth Jen Jeniro i amlygrwydd gyntaf yng Nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn 2005. Crewyd cryn argraff ar y beirniaid gyda'i set amrywiol a chaneuon arbrofol. Ymestynwyd eu henw da wrth iddynt berfformio fel rhan o daith deyrnged i'r Cyrff, Taith Cymru Lloegr a Llanrwst ym Medi 2005. Ers hynny, mae nhw wedi bod yn gigio'n brysur ledled Cymru, wedi perfformio'n fyw yn stiwdio deledu Bandit a recordio Sesiwn C2 Radio Cymru.
Recordiwyd y deunydd newydd yn stiwdio MASE, ym Mhenmaenmawr yn ystod Medi 2006 dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd John Lawrence. Mae'r CD yn cael ei ryddhau ar label y band, Recordiau Tramp Records.
Diweddarwyd: 24 Tachwedd 2006, 5:29pm