Newyddion - Manylion
Gŵyl Dewi Drwg - Y Dydd Gŵyl Ddewi Amgen
Dydd Mercher, 31 Ionawr 2007 - 12:16pm | Gigs |
Mae Gŵyl y Cenhedloedd Bychain ac Undeb Myfyrwyr Llambed yn dod at ei gilydd i gyflwyno noson o rialtwch dieflig Cymreig sy'n cyfuno doniau dau o'r bandiau Cymreig cyfoes gorau gyda cherddoriaeth ein DJs brethyn cartref.
Yn y gornel Ogledd Orllewinol, wedi'u harfogi â'u logo 'clockwork orenaidd' ceir y droogs - rapiwr Cymraeg, DJ o'r Iseldiroedd, Cymro a aned yn Llydaw ac sy'n siarad Ffrangeg, drymiwr a aned yn Ne Corea a chwaraewr allweddellau/gitâr o Ogledd Corea. Dyma ichi sain anhygoel Genod Droog, cymysgedd o themâu teledu, pop 'lectro Ffrengig, canu gwerin Cymraeg, hip hop, dawns a ffync, i gyd wedi'u hadlewyrchu mewn sioe fyw.
Yn y gornel Dde-Orllewinol ceir Mordekkers: sain hynafol y pibau Cymreig a'r mandola (tad y mandolin) i gyfeiliant un o'r adrannau rhythm tynnaf ar y blaned - cerddoriaeth ddawnsio wirioneddol wreiddiol sy'n eich gorfodi gerfydd eich gwar i'ch traed.
Yn ogystal â cherddoriaeth, fe fydd stondinau, tylino, darlleniadau tarot, adweitheg, raffl* a llawer mwy.
Dyma noson i chwythu'r gwe pry cop o gorneli llychlyd Dydd Gŵyl Ddewi. I dîm y Cenhedloedd Bychain mae'n gyfle i weithio'n agosach â llwythi'r gorllewin a'r gogledd, y Cardis a'r Gogs sydd wedi'n cefnogi dros y blynyddoedd diwethaf - ffordd o ddweud 'diolch, dewch eto'. I Dîm Adloniant Llambed gallai fod yn ddechrau dathliad blynyddol rheolaidd, cyffrous.
Fe ddywedodd Francesca Dimech, y Swyddog Adloniant, "Mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â'r Cenhedloedd Bychain i drefnu digwyddiad ar gyfer y gymuned gyfan sy'n cyfuno'r iaith Gymraeg hynafol â rhythmau cyfoes, cyffrous"
Bydd tocynnau'n costio £5 a £4 am docyn consesiwn gan gynnwys UCM. Mae'n nhw ar gael gan y Dderbynfa yn Undeb Myfyrwyr Llambed ac 'Our Style' (Stryd Fawr Llambed).
* Raffl i ennill 2 docyn Gŵyl Y Cenhedloedd Bychain! (Gwerth £100!) Ffoniwch 01570 422619 am docynnau neu wybodaeth bellach.
Cyfrannwr: Dick Turner
Diweddarwyd: 31 Ionawr 2007, 12:41pm