Newyddion - Manylion
Cyhoeddi Perfformwyr Gŵyl Gynta’r Haf
Dydd Iau, 05 Ebrill 2007 - 1:24pm | Gigs |
Mae trefnwyr Gig Mawr Bont wedi cyhoeddi enwau'r artistiaid fydd yn perfformio eleni yn yr ŵyl fydd yn cael ei chynnal dros benwythnos olaf mis Mehefin. Heb os, y prif atyniad fydd prif artist nos Sadwrn, Bryn Fôn, sy'n debygol iawn o lenwi'r Pafiliwn newydd ym Mhontrhydfendigaid sy'n dal hyd at 2900 o bobl.
Cafodd y Gig Mawr Bont gwreiddiol ei gynnal yn ystod yr haf llynedd fel y digwyddiad mawr cyntaf ers ailagor drysau'r Pafiliwn. Mae gŵyl eleni'n addo bod hyd yn oed yn well wrth iddi gael ei ymestyn dros ddwy noson, roi llwyfan i dros 20 o artistiaid a chynnal cerddoriaeth byw trwy gydol y dydd Sadwrn. Yn sicr bydd rhywbeth at ddant pawb yn arlwy'r penwythnos.
Bydd yr ŵyl yn dechrau ar nos Wener 29ain Mehefin gyda dau o fandiau mwyaf cyffrous y sîn Gymraeg, Radio Luxembourg a'r Genod Droog, ymysg y lineup amgen ac amrywiol.
Bydd dechrau cynnar ar ddydd Sadwrn 30ain Mehefin wrth i'r gerddoriaeth byw ddechrau am hanner dydd ar y llwyfan acwstig, ble bydd ffefrynnau fel Alun Tan Lan a mr huw ymysg y diddanwyr. Bydd y prif lwyfan yn agor am 5yh ac yn cynnwys rhai o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru yn cynnwys Bob Delyn a'r Ebillion a Fflur Dafydd a'r Barf. Bydd Pontrhydfendigaid hefyd yn croesawu un o'i hoff feibion mabwysiedig, Tecwyn Ifan, a oedd yn gyfrifol am drefnu rhai o ddigwyddiadau mwyaf yr hen Bafiliwn nol yn y 1980au.
Mae un o'r trefnwyr Owain Schiavone yn gobeithio gweld yr amserlen cyffrous yn sefydlu'r ŵyl ymhellach fel un o uchafbwyntiau dyddiadur gŵyliau'r haf, "roedd y digwyddiad yn hollol wych llynedd, ac fe lwyddo ni gyda'n nòd o greu gŵyl mawr newydd wrth i tua 700 o bobl fynychu. Wrth ymestyn Gig Mawr dros ddeuddydd mae'n golygu fod modd i ni roi llwyfan i hyd yn oed mwy o berfformwyr a chreu teimlad go iawn o ŵyl. Rydym yn hyderus bydd yr arlwy yn denu pobl yn eu miloedd i Bont – mae Ceredigion yn haeddu gŵyl gerddorol gwirioneddol fawr fel hyn."
Caiff Gig Mawr Bont ei gynnal ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 29-30ain Mehefin. Bydd tocynnau ar gael i'w prynu yn yr wythnosau nesaf. Am fwy o fanylion gallwch ymweld â'r wefan.
Cyfrannwr: Owain Schiavone
Diweddarwyd: 05 Ebrill 2007, 1:59pm