Archif
Mehefin 2008 Ionawr 2008 Mehefin 2007 Mai 2007 Ebrill 2007 Chwefror 2007 Ionawr 2007 Tachwedd 2006 Hydref 2006 Awst 2006 Gorffennaf 2006 Mehefin 2006 Ebrill 2006 Mawrth 2006 Chwefror 2006 Ionawr 2006 Rhagfyr 2005 Tachwedd 2005 Hydref 2005 Medi 2005 Awst 2005 Gorffennaf 2005 Mehefin 2005 Mai 2005 Ebrill 2005

Newyddion - Manylion

Yn ôl i Stesion Strata

Dydd Iau, 24 Mai 2007 - 10:17am | Gigs |

Mae un o gyn-drigolion pentref Pontrhydfendigaid, Tecwyn Ifan, wedi mynegi ei gyffro ynglŷn â dychwelyd i'r pentref i berfformio fel un o brif artistiaid Gig Mawr Bont eleni.

Mae Tecwyn yn un o gerddorion mwyaf hoffus Cymru ac wedi profi gyrfa ryfeddol sydd wedi goroesi 4 degawd a channoedd o berfformiadau byw. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn byw a gweithio ym Mhontrhydfendigaid yn ystod y 1980au, a bydd yn dychwelyd i'w gartref ysbrydol fel un o brif atyniadau gŵyl ddiweddaraf y calendr cerddorol ar Sadwrn 30ain Mehefin.

Cynhelir y digwyddiad ym Mhafiliwn newydd y pentref, a adnewyddwyd yn ddiweddar gyda chymorth arian Amcan 1 Ewropeaidd, ond bydd Tecwyn Ifan yn fwy cyfarwydd â'r hen ganolfan a oedd yn ei hanterth yn ystod ei gyfnod yn yr ardal. Dywedodd Tecwyn, "mae gennyf atgofion melys o’r Pafiliwn fel un o ganolfannau cerddoriaeth pwysicaf Cymru. Ymwelodd pob math o artistiaid â’r ganolfan dros y blynyddoedd, o Max Boyce i Jools Holland, gan ddenu 3000-4000 o bobl yn gyson i'r pentref bach."

"Rwy hyd yn oed yn cofio helpu trefnu ambell ddigwyddiad cerddorol Cymraeg fy hun yno, ac yn cofio rhai gigs bythgofiadwy – Byd Bont a drefnwyd gan Sulwyn Tomos i godi arian i leddfu peth ar newyn a thlodi yn Affrica (ar ffurf 'Live Aid), ac yn bellach yn ôl na hynny rwy’n cofio canu yn rhai o'r Pinaclau Pop yno yn y 60au. Rwy’n falch iawn bod yr hen bafiliwn wedi cael ail wynt yn ddiweddar yma, a gobeithio y caiff ddyfodol prysur a llwyddiannus."

Mae digwyddiad eleni'n addo cystadlu â rhai’r gorffennol gydag arlwy a fydd yn cyffroi cynulleidfaoedd. Cefnogir y prif berfformiwr, Bryn Fôn, gan artistiaid poblogaidd fel Bob Delyn a’r Ebillion, Fflur Dafydd ac wrth gwrs Tecwyn Ifan, a ddywedodd "fe wnes i ysgrifennu nifer o ganeuon am fy nghyfnod yng Ngheredigion ac mae rhai ohonynt ymysg y mwyaf poblogaidd yn fy set - mae’n siŵr y bydde’n well i mi ganu rhai o’r rhain ar y noson neu byddai’n hen gyfeillion byth yn maddau i mi!".

Cynhelir Gig Mawr Bont ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar 29-30ain Mehefin - dyma fanylion y gigs

Gallwch brynu tocynnau yn awr ac am fwy o wybodaeth gallwch ymweld â'r wefan.

Cyfrannwr: Owain Schiavone

Diweddarwyd: 24 Mai 2007, 10:30am