Newyddion - Manylion
Tocynnau Gig Mawr Bont ar Werth
Dydd Mawrth, 01 Mai 2007 - 4:56pm | Gigs |
Mae trefnwyr Gig Mawr Bont wedi cyhoeddi fod y tocynnau ar gael i'w prynu o ddechrau mis Mai. Bydd tocynnau'r ŵyl ddeuddydd ar gael o siopau lleol yn ogystal â swyddfa docynnau Pafiliwn Bont ac mae disgwyl iddynt werthu'n gyflym wedi cyffro cyhoeddi'r perfformwyr rai wythnosau'n ôl.
Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos olaf Mehefin, ac yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, mae wedi'i hymestyn i ddwy noson y tro hwn. Radio Luxembourg, Genod Droog, Cowbois Rhos Botwnnog a Jen Jeniro fydd yn diddanu ar y nos Wener. Mae tocynnau'n £5 o flaen llaw neu £6 ar y drws, a gyda nifer cyfyngedig ohonynt ar werth cynghorir pobl i fachu eu tocyn yn fuan.
Adloniant y nos Sadwrn fydd uchafbwynt y penwythnos gyda Bryn Fôn, Tecwyn Ifan, Bob Delyn a'r Ebillion, Fflur Dafydd a'r Barf a Coda a llawer iawn mwy yn perfformio. Bydd hi'n ŵyl go iawn eleni gyda cherddoriaeth fyw o hanner dydd ymlaen a digon o fwyd a diod i gynnal egni'r gynulleidfa. Gyda tocynnau'n ddim ond £10 o flaen llaw a £12 ar y drws mae'r arlwy yn siŵr o ddenu torf enfawr.
Mae tocynnau ar gael o nifer o siopau lleol yn cynnwys siop Inc a Siop y Pethe yn Aberystwyth. Bydd modd i drigolion Tregaron godi eu tocyn o siop Medical Hall neu swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, tra bod modd i bobl Llambed ymweld a'r Smotyn Du. Gellir gweld rhestr lawn y siopau sy'n gwerthu tocynnau ar wefan Pafiliwn Bont. Fel arall, ffoniwch swyddfa docynnau'r Pafiliwn ar 01974 831 635.
Cyfrannwr: Owain Schiavone
Diweddarwyd: 01 Mai 2007, 5:04pm