Newyddion - Manylion
Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007
Dydd Llun, 11 Mehefin 2007 - 1:11pm | Gigs |
Radio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a'r Band, Brigyn... Dim ond rhai o'r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni.
Bydd "Adloniant Tafod" sydd wedi bod yn rhan annatod o wythnos yr Eisteddfod ers degawdau, yn cael ei gynnal eleni ar dir Clwb Rygbi'r Wyddgrug sydd wedi ei leoli yng nghanol tref prifwyl 2007. Bydd y Gymdeithas hefyd, mewn cydweithrediad a'r Clwb Rygbi, yn trefnu maes pebyll ar y safle er mwyn rhoi dewis amgen i’r Eisteddfodwyr hynny sydd am brofi bywyd cymdeithasol tref Yr Wyddgrug yn ogystal ag ymweld â'r Eisteddfod ei hun. Bydd y Clwb ar agor drwy'r dydd ac yn darparu bwyd gyda’r nos.
Un o'r prif atyniadau eleni fydd "Gŵyl Grug", gyda bandiau yn chwarae drwy'r dydd o hanner dydd ymlaen ar y Sadwrn ola gyda Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo a Radio Luxembourg - brenhinoedd digymar y sîn roc Gymraeg bresennol - yn uchafbwynt i'r diwrnod ac i'r wythnos. Mae'r Gymdeithas hefyd yn falch tu hwnt y bydd digwyddiadau eleni, fel sydd yn arferol, yn rhoi llwyfan i fandiau lleol a’r bandiau ifanc sydd yn ddyfodol y sîn.
Meddai Steffan Cravos, Swyddog Adloniant Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n mynd i fod yn wythnos gyffrous tu hwnt, gyda bandiau gorau Cymru ar y llwyfan bob noson o’r wythnos. A gyda maes pebyll ar y safle hefyd, does dim amheuaeth mai Clwb Rygbi'r Wyddgrug fydd y lle i fod yn ystod wythnos gyntaf Awst eleni. Gyda'r lleoliad o yng nghanol y dref gyda chysylltiadau hawdd i feysydd yr Eisteddfod, a'r line-ups cryfaf ers blynyddoedd, mae'n argoeli i fod yn wythnos a hanner! Byddai'n rhaid i chi fod yn lembo go iawn i'w methu!"
Bydd DJs yr wythnos yn cynnwys Huw Stephens, Ian Cottrell, Huw Evans, DJ Fuzzy Felt, Steffan Cravos a mwy.
Dyma fanylion llawn y gigs.
Diweddarwyd: 11 Mehefin 2007, 1:35pm