Newyddion - Manylion
Hybu'r frwydr trwy'r Sîn Gerddorol Gymraeg
Dydd Gwener, 25 Ionawr 2008 - 5:15pm | Diwydiant |
Am y tro cyntaf erioed, neilltuir sesiwn gyflawn o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith i'r sîn gerddorol eleni. Bydd sesiwn y prynhawn yn trafod y cwestiwn "Sut i hybu'r frwydr trwy'r Sîn Gerddorol Gymraeg" .
Arweinir y sesiwn gan Toni Schiavone sydd wedi bod yn hyrwyddo gigs a labeli Cymraeg ers dros chwarter canrif ac a fu'n brif ysgogydd i'r "Cyrff" yn eu dyddiau cynnar. Cawn weld sut y mae bandiau trwy'r degawdau wedi defnyddio cerddoriaeth yn gyfrwng gwleidyddol a chawn drafod sut y gallai cyflwyniadau aml-gyfryngol, gigs, bandiau, cyhoeddiadau, deunydd wedi recordio - fod yn gyfryngau heddiw i godi ymwybyddiaeth a'r frwydr ymhlith Cymry ifainc.
Dyma sesiwn ymarferol y gall pawb gyfrannu ati - fel cerddorion, technegwyr, hyrwyddwyr ac unrhyw un arall sy'n mwynhau gigs a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg.
2pm-3.40pm, Sadwrn 2il Chwefror yn y Morlan, Aberystwyth
Diweddarwyd: 25 Ionawr 2008, 5:24pm