Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Amddiffyn

Grŵp | Arddull: Indi, Roc | Iaith: Cymraeg

Gwybodaeth

Fe wnaeth y band ddechrau gyda dylanwadau fel The Smiths, R.E.M. a The Cure. Pan gododd y sîn Madchester yn 1987 roedd y band yn debycach i'r Happy Mondays a Stone Roses. Chwareuodd y band led-led Cymru, yn gigs Do-Re-Mi-FFwnc, gigs 'sdeddfod, a unrhyw gig oedda nhw yn gallu sgafio i ddeud gwir. Wnaethon nhw droi fyny yng ngig Cerrig Melys yn Harlech unwaith a menthyg pob dim yn cynnwys plectrum i chwarae set ar ôl i Gink, eu stand in manager, blagio'r trefnwyr i adael iddyn nhw chwarae!

Mae'n bechod fod na ddim llawer o ganeuon y band wedi eu rhyddhau ond roedd y band yn fwy tebygol o chwalu ei pres ar bethau mwy diddorol na recordio.

Mae Darren nawr yn artist, Alex wedi bod gyda yn chwarae gyda D.F.A. Hitchcock, Evans a Pet Tree.

Aelodau

Alan Bolton - bas, llais Cefndir
Aled Ellis-Davies - llais
Darren Bisset - gitâr
Alex Philp - drymiau

Hefyd:
Geraint Llywelyn - allweddellau
Martin Young - gitâr
Bu Deiniol Rhys Williams yn chwarae ail gitar am gyfnod
Bu Edwin Humphreys yn chwarae sax am gyfnod

Disgyddiaeth

Pob Chwech Eiliad - (Caset, EP, Label Crai, 1990)
Cofi Pop a Cleo ar albym amlgyfrannog Cofi Roc - (Caset, Albwm, CRAI 015, 1991)
Sawl sesiwn Radio Cymru a fe ymddangosodd y band ar pob cyfres Fideo 9.

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwyr: Alex , Aled Ellis-Davies

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Ionawr 2008