Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Datsyn

Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1994 - 1998

Gwybodaeth

Band o ardal Canolbarth a Gogledd Cymru, ffurfiwyd tua canol 1994. Yn ystod y flwyddyn honno fe wnaeth y band rhyddhau tâp demo, yn ogystal a chwarae gigiau yng Nghaerfyrddin (gyda GZM), Porthmadog (gyda Super Furry Animals) a hefyd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, ar eu pennau'u hunain.

Fe cafwyd sesiwn ar raglen Radio Cymru "Heno Bydd Yr Adar Yn Canu", gan chwarae'r traciau Be 'Di'r Plot?, Sbeis a Kinky Bitch.

Ar ôl i'r band ddod i ben (yn 1998?) fe aeth Steffan a Gruff ymlaen i ffurfio'r band hip-hop llwyddiannus Y Tystion.

Aelodau

Gruff Meredith - canwr / gitâr
Iwan Pierce - bas
Ifer Gwyn - drymiau
Nick Fenwick - allweddellau / gitâr
Steffan Cravos - samplau / synau ychwanegol

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwr: Mathew Morris

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Ebrill 2005