Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Dynamic

Grŵp | Arddull: Pop, Dawns | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 2003 - 2005

Gwefan: www.dynamicgirlband.com

Gwybodaeth

Anona, Sarah a FfionRoedd Dynamic yn grwp pop merched o ogledd Cymru yn cynnwys Sarah o Fethel, Caernarfon ac Anona a Ffion o Landyfrydog, Ynys Mon.

Wedi iddynt ryddhau eu gryno ddisg gyntaf, 'Byw ein Breuddwyd' yn 2004, fu'r tair yn brysur iawn ar daith ysgolion yn hyrwyddo'r gryno ddisg. Yn ystod y flwyddyn fe aeth Dynamic ymlaen i chwarae yn 'Y Sesiwn Fawr Dolgellau', 'Gwyl Cefni', 'Pabell Roc a Phob yr Eisteddfod Genedlaethol' a hefyd 'Gwyl Dros y Wal, Glynllifon'.

Fe wnaeth Dynamic arwyddo gyda label Gwynfryn Cymunedol a fe wnaeth y band weithio ac ysgrifennu caneuon gyda'r enwog Bob Galvin. Cyd-ysgrifennodd Sarah, Anona a Ffion pob can ar 'Byw ein Breuddwyd', oedd yn cynnwys fideo CD arbennig

Yn eu hamser fe wnaeth Dynamic berfformio gyda nifer o enwau mawr gan gynnwys Bryn Fôn, TNT, Haydn Holden, Epitaff, Taliah, Maharishi, Quidest a Meinir Gwilym.

Fe wnaeth y band chwalu ar ddiwedd 2005 ond mae aelodau y band am barhau i weithio ym myd cerddoriaeth gyda gyrfaoedd unigol.

Aelodau

Sarah Wynn Morgan
Anona Gwyneth Farrell
Ffion Ann Lisk

Disgyddiaeth

Byw Ein Breuddwyd - (Gwynfryn Cymunedol, GCCD05, 2003)
Chwarae 'fo tân - (Gwynfryn Cymunedol, GCCD26, 2005)

Artistiaid Cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 07 Mawrth 2006