Mynegai Cyflym
A B C Ch D E F
Ff G H I J K L
Ll M N O P Ph Q
R Rh S T U V W
Y Z

Rhestr Artistiaid - Manylion

Gorky's Zygotic Mynci

Grŵp | Iaith: Cymraeg, Saesneg | Cyfnod: 1990 - 2006

Gwefan: www.gorkys.com

Chwilio am gigs gyda'r artist yma

Gwybodaeth

Gorky'sFe ffurfiwyd y Gorkys yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn 1990, ac yn gyflym fe ddaeth y band adnabyddus yn sîn danddaearol Cymru, ac ennill clod gan Nia Melville ar Radio Cymru. Ar ôl ryddhau nifer o albymau yn Gymraeg ar label Ankst fe wnaeth y band ryddhau rhai recordiau yn Saesneg hefyd a chael sylw rhyngwladol am eu cerddoriaeth pop seicadelig. Mi roedd John Peel yn ffan mawr hefyd a fe recordiodd y grŵp sesiwn i'w rhaglen ar Radio 1 dros y blynyddoedd.

Ers i John Lawrence adael yn 1999 mae'r band wedi dilyn llwybr ychydig yn wahanol gyda steil roc gwerin mwy traddodiadol.

Yn 2005 fe wnaeth Euros a Richard ddechrau ysgrifennu caneuon ar wahan. Fe wnaeth y ddau ryddhau albymau yn 2006, a gwneud taith o gigs i hyrwyddo eu gyrfaeodd newydd fel unigolion. Ar Fai 26, 2006 fe gyhoeddodd y band fod eu taith nhw wedi dod i ben, gyda tri albwm cyntaf y band i'w ail-ryddhau erbyn diwedd y flwyddyn.

Aelodau

Euros Childs - llais / allweddellau
Richard James - bas
Megan Childs - fiolin
Rhodri Puw - gitâr
Peter Richardson - drymiau

cyn-aelodau:
John Lawrence - gitâr
Steffan Cravos - fiolin (dyddiau cynnar)
Euros Rowlands - drymiau (fyny at 2003)

Disgyddiaeth

Caset preifat, yn cynnwys sesiwn Radio Cymru a sesiwn yng ngwesty Stepney, Llanelli (Rhagfyr 1990)
Caset preifat, yn cynnwys wyth? o ganeuon cynnar (gwerthwyd drwy'r post gan Euros, 1991)
Patio (Ankst 040 10", Mehefin 1992)
Tatay (Ankst 047 CD/caset, Mawrth 1994)
Merched yn 'Neud Gwallt Ei Gilydd (Ankst 048 CD sengl, Mai 1994)
The Game of Eyes/Pentref Wrth y Môr (Ankst 053 CD sengl, Tachwedd 1994)
Llanfwrog EP (Ankst 056 CD sengl, Mai 1995)
Patio [9 trac ychwanegol] (Ankst 055 CD/caset, Mehefin 1992)
Bwyd Time (Ankst 059 CD/caset/LP 'gatefold', Mehefin 1995)
If Fingers Were Xylophones (Ankst 064 CD/7" cyfyngedig, Tachwedd 1995)
Amber Gambler (Ankst 068 CD sengl/caset EP, 24 Mehefin 1996)
Patio Song (Fontana, CD/caset/7", 28 Hydref 1996)
Barafundle (Fontana 534 769-2, CD/caset/12", 6 Ebrill 1997)
Gorky 5 (Fontana 558 822-2, CD/caset/12", 27 Awst 1998)
Spanish Dance Troupe (Mantra MNTCD 1015, CD/caset/12", 4 Hydref 1999)
The Blue Trees (Mantra MNTCDM 1023, CD/caset/12", 30 Hydref 2000)
How I Long To Feel That Summer In My Heart (Mantra MNTCDL 1025, CD/caset/12", 24 Medi 2001)
Sleep/Holiday (Sanctuary SANCD 183, CD/caset, 25 Awst 2003)

Artistiaid Cysylltiedig

Cyfrannwyr: Rhys James Jones, Dafydd Tomos

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mai 2006