Rhestr Artistiaid - Manylion
Pop Negatif Wastad
Grŵp | Iaith: Cymraeg | Cyfnod: 1989
Gwybodaeth
Ar ôl iddo gadael Traddodiad Ofnus yn 1988, fe wnaeth Gareth Potter ymuno gyda Esyllt o'r Crisialau Plastig i wneud cerddoriaeth electronig gyda'u gilydd. Y dylanwadau oedd Acid House (masif ar y pryd) a pync hardcore Americanaidd. Cyfuniad rhyfedd ond, hei, be di'r ots!
Aeth y ddau i recordio da'r athrylithgar Gorwel Owen ac fe rhyddhaodd y bonheddwr Alan Holmes EP 12" ar ei label Central Slate yn 1989. Wnaethon nhw byth whare'n fyw, ond fe ymddangoson nhw ar Fideo 9, recordio thema i'r rhaglen "Slac Yn Dynn" i S4C a chwarae'r band yn y ffilm "Mwg Glas, Lleuad Waed".
Yn ddiweddar mae trac o'r EP wedi ymddangos yn ffilm Emyr Glyn Williams "Y Lleill".
Aelodau
Gareth Potter
Esyllt Wigley
Cynhyrchydd: Gorwel Owen
Disgyddiaeth
Wastad - (LP 12", Central Slate, SLATE 09, 1990)
Artistiaid Cysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2005